70ain Ras Hwyl y GIG
16 Mai 2018
Bydd myfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn cynnal Ras Hwyl Pen-blwydd y GIG yn 70 oed ddydd Sul 20 Mai 2018.
Bydd y ras hwyl yn nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG, gyda'r nod o godi arian ar gyfer wardiau, adrannau, clinigau ac ymchwil yn yr ysbytai lleol. Elusen Iechyd Caerdydd a'r Fro a Light Up Events sy’n trefnu’r ras hwyl a gynhelir ym Mae Caerdydd.
Mae Staff a Myfyrwyr Nyrsio Oedolion o Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Caerdydd, wedi bod yn hyfforddi'n galed ar gyfer y ras 5k a 10k a fydd yn cael eu cynnal yn ystod y digwyddiad. Rydym yn disgwyl y bydd 70 o bobl yn rhedeg gyda'r grŵp ddydd Sul nesaf.
Mae myfyrwyr a staff wedi bod yn cynnal sesiynau hyfforddi mewn grwpiau i baratoi ar gyfer y diwrnod. Mae'r rhain wedi cynnwys Park Run Caerdydd; ras 5k wythnosol sy’n cael ei gynnal ym Mharc Bute bob bore Sadwrn, a sesiynau prynhawn Mercher o amgylch Parc y Mynydd Bychan.
Dywedodd Ricky Hellyar a Claire Job, sy'n ddarlithwyr nyrsio oedolion ym Mhrifysgol Caerdydd, eu bod yn meddwl bod y ras hwyl yn ‘ffordd wych o ddathlu Nyrsio a'r GIG ac i ddod â myfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr at ei gilydd i wneud rhywbeth sy’n hwyl a hynod gadarnhaol.'
Dywedodd un o'r myfyrwyr fydd yn rhedeg gyda Ricky a Claire ar y diwrnod, 'Rydw i ym mlwyddyn olaf fy ngradd ac yn credu ei bod hwn yn ffordd hyfryd o orffen y flwyddyn.' Ychwanegodd myfyriwr arall 'Bydd yn llawer o hwyl ac yn fy nghadw'n heini'.
Bydd y grŵp o staff a myfyrwyr yn rhedeg ras hwyl Pen-blwydd y GIG yn 70 oed yn gwisgo crysau-t porffor gyda '#TeamCardiffNursing' wedi'i argraffu ar y blaen. Byddent yn gwerthfawrogi cymaint o gefnogaeth â phosib.
I gael rhagor o wybodaeth ewch i Cardiff and Vale Health board a dilynwch hashnod #TeamCardiffNursing i gael y newyddion diweddaraf.