Myfyrwyr yn darganfod corryn gwryw anodd ei ganfod
15 Mai 2018
Mae myfyrwyr ar gwrs maes yn Borneo wedi gwneud darganfyddiad rhyfeddol, a chael y cyfle i ddisgrifio'r corryn Opadometa sarawakensis gwryw am y tro cyntaf.
Gan eu bod yn edrych mor wahanol i’w gilydd, mae dod o hyd i gorynnod Opadometa benyw a gwryw fel ei gilydd wedi bod yn dalcen caled i wyddonwyr.
Hyd yn ddiweddar, dim ond corynnod benyw y rhywogaeth Opadometa sarawakensis oedd yn hysbys, a adnabyddir gan eu habdomen coch a glas trawiadol. Daeth grŵp o fyfyrwyr o hyd i gorryn gwryw dirgel tra'n cwblhau cwrs maes pythefnos yng Nghanolfan Maes Danau Girang - cyfleuster cydweithredol a reolir gan Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Phrifysgol Caerdydd.
Yn ôl Dr Benoit Goossens, o Brifysgol Caerdydd a Chanolfan Maes Danau Girang: "Daeth y myfyrwyr o hyd i gorryn gwryw yn hongian ar we Opadometa sarawakensis benyw. Roedd y gwryw yn eithaf trawiadol ac ym wahanol iawn i'r fenyw - roedd yn gymysgedd o oren, llwyd, du ac arian.
"Gyda'r gwrywod a'r benywod yn edrych yn hollol wahanol i’w gilydd, gall fod yn anodd nodi rhywedd y rhywogaeth. Felly roedd angen i ni gasglu digon o dystiolaeth o'n harolygon maes trylwyr yn yr ardal i brofi eu bod yr un rhywogaeth mewn gwirionedd.
"Bu'n brofiad addysgol unigryw i’r myfyrwyr. Daethon nhw i'r ganolfan maes i gael profiad ymarferol o dechnegau biolegol ond maent hefyd wedi cymryd rhan mewn darganfyddiad gwyddonol enfawr ac wedi datblygu ein gwybodaeth o rywogaeth sy’n anodd ei chanfod."