Mae ymchwil yn dangos bod busnesau sy’n manteisio ar fand eang cyflym iawn a’r cyfleoedd technoleg digidol sy’n deillio o hynny yn gwneud mwy o elw ac yn fwy llwyddiannus
15 Mai 2018

Mae busnesau annibynnol sy’n manteisio’n llawn ar Fand Eang Cyflym Iawn wedi gweld gwelliannau gwirioneddol yn eu perfformiad yn ôl gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerdydd.
Cynhaliwyd arolwg o dros 450 o fusnesau bach ar draws Cymru gan Uned Ymchwil Economi Cymru Ysgol Busnes Caerdydd yn eu Harolwg Aeddfedrwydd Digidol.
Yn ogystal â chyflwyno band eang cyflym iawn i fusnesau drwy raglen Cyflymu Cymru, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn helpu busnesau bach a chanolig i ddeall, mabwysiadu a defnyddio’r manteision y mae band eang cyflym yn eu cynnig drwy ei gynllun Cyflymu Cymru i Fusnesau. Dangosodd canlyniadau Arolwg Aeddfedrwydd Digidol 2017 fod cwmnïau â phrosesau digidol yn defnyddio nifer uchel o raglenni digidol ac yn sicrhau’r mwyafrif o’u gwerthiannau ar-lein. Roedd 70% o’r cwmnïau hyn yn gweld cynnydd cyson yn eu proffidioldeb.
Mewn cymhariaeth, llai na 22% o’r rheiny sydd heb brosesau digidol, neu’r rheiny nad ydynt yn dueddol o ddefnyddio technoleg ddigidol nac yn gwneud gwerthiannau ar-lein, sy’n nodi cynnydd mewn elw.
Mae'r adroddiad yn datgan: “Roedd busnesau bach â phrosesau digidol yn gweld mwy o gynnydd mewn perfformiad busnes na’i cymheiriaid llai digidol. Cafodd hyn ei fesur wrth ystyried trosiant, proffidioldeb, a chyflwyno cynnyrch, prosesau neu wasanaethau newydd.”
“... Mae’r gwahaniaethau sylweddol rhwng busnesau bach sydd â phrosesau digidol a’r rheiny sydd heb y prosesau hyn, yn rhybudd go iawn i fusnesau.”
Mae’r adroddiad yn argymell y dylai busnesau bach gysylltu â chymorth Llywodraeth Cymru, sydd ar gael i’w cynorthwyo, i fanteisio ar fand eang cyflym iawn
a defnyddio technolegau digidol.
Dywedodd yr Athro Max Munday, o Uned Ymchwil Economi Cymru ac un o awduron yr adroddiad: “Mae ein hymchwil yn dangos po fwyaf y prosesau digidol sydd gan fusnes, y mwyaf tebygol ydyw o lwyddo. Ceir gwahaniaethau clir ym mherfformiad a thwf rhwng cwmnïau sy’n defnyddio technoleg ddigidol yn ddyddiol a chwmnïau sydd yn arafach yn manteisio arni.
Dywedodd Arweinydd y Tŷ Julie James, AC sy’n gyfrifol am y maes digidol: “Gall defnyddio band eang cyflym iawn a manteisio ar gyfleoedd digidol wneud gwahaniaeth mawr i fusnesau. Yn sgil rhaglen Cyflymu Cymru, a hefyd waith cyflwyno ar lefel fasnachol, gall y rhan fwyaf o Gymru bellach fanteisio ar fand eang cyflym iawn.
“Mae gennym hefyd y Cynllun Taleb Gwibgyswllt yng Nghymru a all alluogi busnesau i fanteisio ar gyswllt hyd yn oed cyflymach ac mae gennym daleb Allwedd Band Eang Cymru ar gyfer busnesau a safleoedd nad oes modd iddynt fanteisio ar fand eang cyflym iawn.
“Hoffem weld busnesau’n dysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael iddynt, gan elwa i’r eithaf arnynt. Un ffordd o wneud hyn yw drwy gysylltu â Chyflymu Cymru i Fusnesau a chymryd rhan yn un o’u gweithdai. Mae dros 3000 o fusnesau eisoes wedi gwneud hyn.
“Rydym bellach wrthi’n cynllunio’r cam nesaf o gyflwyno band eang cyflym iawn fel y gall hyd yn oed mwy o fusnesau fanteisio arno.”
Dyma rai o ganfyddiadau allweddol eraill yr adroddiad:
- Mae 66% o fusnesau bach sy’n defnyddio prosesau digidol yn eu gwaith yn gweld gwell cynnydd mewn trosiant. Gwelodd chwarter y rhain gynnydd o dros 50%.
- Yn groes i ddamcaniaethu eang fod defnydd helaeth o dechnolegau digidol yn debygol o gymryd lle gwaith llafur, gwelodd 46% o’r cwmnïau sydd â phrosesau digidol gynnydd mewn cyflogaeth. Mae hyn o’i gymharu ag 11% y busnesau sydd heb brosesau digidol.
- Mae cyfran uchel o sectorau megis Trafnidiaeth a storio (79%), Gweithgynhyrchu (52%), a Gwybodaeth a chyfathrebu (50%) yn manteisio ar fand eang cyflym iawn. Nifer cymharol fach o’r sector Adeiladu oedd yn manteisio ar fand eang cyflym iawn (20%). Y sectorau llety a gwasanaethau bwyd oedd â’r gyfran uchaf o fusnesau bach yn dewis peidio â mabwysiadu band eang o gwbl (6% yr un).
Ychwanegodd yr Athro Munday: “Mae gwella perfformiad ein busnesau bach Cymreig yn ffordd allweddol o gryfhau rhagolygon economaidd rhanbarthol. Mae gallu busnesau bach i fanteisio ar y cyfleoedd sydd gan fand eang cyflym iawn i’w cynnig yn hanfodol i wella eu perfformiad.”