Llwyddiant yng Ngwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr 2018
10 Mai 2018
Mae’r Ysgol wedi bod yn llwyddiannus unwaith eto yn y gwobrau blynyddol eleni. Cafodd ei henwebu ar gyfer sawl gwobr a daeth i’r brig yng nghategori Cynrychiolwyr Myfyrwyr.
Dr Frances Rock, Dr Gerard O'Grady (categori Goruchwyliwr Doethurol Rhagorol), yr Athro Ann Heilmann (Aelod Staff Mwyaf Arloesol), Sarah Millward (Cydlynydd y Flwyddyn ar gyfer Cynrychiolwyr Myfyrwyr) a Rob Lloyd (Cynrychiolydd Academaidd Gorau’r Myfyrwyr am y Flwyddyn) oedd pum enwebai teilwng yr Ysgol.
Hon oedd wythfed flwyddyn y Gwobrau Cyfoethogi Bywyd Myfyrwyr sy’n dathlu’r rheini sy’n mynd yr ail filltir ar ran myfyrwyr yn y Brifysgol. Gwahoddir pawb sydd wedi’i enwebu i seremoni wobrwyo a gynhelir ddechrau mis Mai bob blwyddyn.
Ar ôl ennill gwobr Cynrychiolydd Academaidd Gorau'r Myfyrwyr am y Flwyddyn ar gyfer Coleg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, meddai Rob Lloyd: "Penderfynais fod yn gynrychiolydd myfyrwyr yn fy mlwyddyn gyntaf yng Nghaerdydd, ac mae cynrychioli llais y myfyriwr ar bob lefel ers hynny, o israddedigion i diwtoriaid ôl-radd, wedi bod yn bleser pur. Teimlad gwerth chweil yw gweld effaith gadarnhaol a dylanwad parhaus cynrychiolwyr y myfyrwyr, a byddwn yn ei argymell yn gryf i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cymryd rhan. Diolch yn fawr i’r staff Llenyddiaeth Saesneg am eu parch a’u colegoldeb tuag ata i yn fy rôl, a diolch i Dr Irene Morra yn benodol am ei chefnogaeth a’i chydweithrediad estynedig.