Ysgol yn penodi darlithydd newydd
10 Mai 2018
Bydd y staff academaidd o'r radd flaenaf yn Ysgol y Biowyddorau yn croesawu Dr Mariah Lelos, sydd wedi'i phenodi'n Uwch-ddarlithydd.
Bydd Dr Mariah Lelos yn dechrau ei swydd newydd ar 1 Mai, gan ddatblygu rhaglen ymchwil ym maes niwroddirywiad a chynnig addysgu rhagorol i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd.
Nod ymchwil Mariah yw ymchwilio i symptomau seicolegol clefyd Parkinson a chlefyd Huntington, gan ganolbwyntio ar gymwysiadau clinigol a datblygu triniaethau newydd ar gyfer y cyflyrau, gan gynnwys therapïau cellog a genetig.
Dywedodd Dr Mariah Lelos: "Rydw i'n falch iawn o gael fy mhenodi i'r swydd hon fel Uwch-ddarlithydd yn y gymuned ymchwil niwrowyddorau fywiog hon, lle mae gennym fynediad at dechnolegau o'r radd flaenaf a gwyddonwyr byd-enwog.
"Rwy'n awyddus i ddefnyddio fy arbenigedd ym maes niwroddirywiad i gyfrannu at ddatblygu dealltwriaeth newydd o batholeg a thriniaethau ar gyfer clefyd Parkinson – ac i ddod â fy mrwdfrydedd i ddarlithoedd y modiwlau niwrowyddorau a biofeddygol."
Yn wreiddiol, ymunodd Dr Lelos ag Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd fel ymchwilydd ôl-ddoethurol yn ymchwilio i niwroddirywiad yng nghlefyd Parkinson a chlefyd Huntington, cyn cael Cymrodoriaeth gan elusen Parkinson's UK, a chanolbwyntio ei gwaith ar glefyd Parkinson.
Dywedodd yr Athro Jim Murray, Pennaeth Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym wrth ein bodd i benodi Mariah i'r swydd newydd hon fel Uwch-ddarlithydd, a bydd ei harbenigedd ym maes cyflyrau niwrolegol a datblygiad triniaethau posibl yn ychwanegu at enw da a rhagoriaeth ein Hysgol. Mae hi hefyd yn enghraifft wych o sut rydym yn ceisio meithrin a datblygu ein Cymrodorion sydd ar ddechrau eu gyrfa yn yr Ysgol.
"Mae myfyrwyr Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd yn elwa ar astudio dan wyddonwyr sy'n cynnal ymchwil o'r radd flaenaf, ac mae hyn yn helpu ein myfyrwyr i ddatblygu i fod y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr fydd yn mynd ymlaen i ddatrys problemau mwyaf y byd.
"Mae Mariah yn un o bum benodiad academaidd diweddar yn ein Hysgol, ac mae pob un ohonynt yn fenywod rhagorol yn eu maes. Mae hi'n ymuno â nifer fawr o staff academaidd benywaidd rhagorol yn Ysgol y Biowyddorau, sy'n rhannu eu harbenigedd i arwain ymchwil ragorol a chynnig addysg o'r radd flaenaf."