Yr Athro Kathy Triantafilou yn ymuno â Rhwydwaith Imiwnoleg GSK
9 Mai 2018
Yr Athro Kathy Triantafilou o'r Ysgol Meddygaeth yw un o bum academydd drwy'r byd sydd wedi'u dewis i gymryd rhan mewn rhaglen ymchwil imiwnoleg cydweithredol newydd gyda'r cwmni gofal iechyd byd-eang, GSK: y Rhwydwaith Imiwnoleg.
Fel aelod o raglen sabothol Catalydd Imiwnoleg o fewn Rhwydwaith Imiwnoleg GSK, mae'r Athro Triantafilou wedi ymuno â sefydliad ymchwil a datblygu o safon fyd-eang GSK yn Stevenage ble bydd yn gweithio am y tair blynedd nesaf ochr yn ochr â gwyddonwyr GSK, gyda rhyddid i gynnal a chyhoeddi ei hymchwil sylfaenol ei hun. Mae Kathy'n derbyn cyllid ymchwil, cymorth ôl-ddoethurol a chaiff ei chefnogi'n ymarferol i sefydlu prosiectau cydweithredol o fewn sefydliad ymchwil a datblygu GSK. Ar ddiwedd y cyfnod sabothol o dair blynedd bydd yn derbyn grant i'w helpu i ddychwelyd i'r byd academaidd.
Mae gwaith Kathy'n canolbwyntio ar fecanweithiau moleciwlaidd llid, sef ymateb amddiffynnol naturiol y corff i unrhyw anaf, haint neu enynfa. Fodd bynnag, os na chaiff ei reoli, gall llid achosi niwed fel y gwelir mewn nifer o glefydau llidiol fel arthritis rhiwmatoid ac osteo yn ogystal â chlefyd Alzheimer. Bydd yr ymchwil yn archwilio rôl synwyryddion y system imiwnedd gynhenid mewn cyflyrau llidiol.
"Mae hwn yn gyfnod cyffrous i fi," dywedodd Kathy. "Mae'r Catalydd Imiwnoleg yn rhoi cymorth a rhyddid i fi weithio ar brosiectau 'awyr las' a hefyd y cyfle i ddysgu am y prosesau penderfynu y tu ôl i ddatblygu technoleg newydd: er enghraifft, sut mae ymchwil yn trosi'n gynnyrch y gellir ei farchnata. Mae'r ddealltwriaeth hon yn fentora gyrfa gwerthfawr i fi. Ymhellach, rwyf i wedi sefydlu perthynas ymchwil gadarn rhwng GSK a Phrifysgol Caerdydd fydd yn meithrin rhagor o gyhoeddiadau yn ogystal â chyfleoedd cynyddol ar gyfer ymchwil gwyddonol cydweithredol."
Mae arbenigedd Kathy'n cyd-fynd yn dda gydag ymchwil darganfod cyffuriau GSK gan fod y cwmni wedi nodi imiwnoleg fel maes ffocws allweddol sy'n effeithio ar y rhan fwyaf o feysydd therapi y mae'n ceisio datblygu targedau cyffuriau ynddynt: clefydau resbiradol, llid-imiwnedd, clefydau heintus, oncoleg a brechlynnau. Mae hyn yn cynnig digon o gyfleoedd ar gyfer cydweithio gwyddonol a rhannu dysgu i fod o fudd i ymchwil bioleg sylfaenol a datblygu cyffuriau cymhwysol ym maes imiwnoleg sydd ar gynnydd.
Dywedodd Paul-Peter Tak, Ymchwil a Datblygu GSK, Uwch Is-lywydd y Rhwydwaith Imiwnoleg: "Bydd y Rhwydwaith Imiwnoleg yn gadael i ni greu cyswllt gyda’r gwyddonwyr mwyaf disglair yn y byd sy'n rhydd eu meddwl ac sy'n gallu troedio llwybrau nad ydym ni wedi meddwl amdanynt eto. Rydym ni am wneud yn siŵr eu bod yn gysylltiedig â'r gwyddonwyr sy'n darganfod ac yn datblygu meddyginiaethau yn GSK."