Beth yw pwrpas pwrpas?
26 Ebrill 2018
Cafodd y rheini oedd yn bresennol eu procio'n broffesiynol, yn bersonol ac yn ddeallusol wrth ystyried eu pwrpas yn y diweddaraf yn y Gyfres o Frecwastau Briffio Ysgol Busnes Caerdydd.
Dan arweiniad Stephen Killeen, Cyfarwyddwr Nodau Byd-eang a Sectorau yn Busnes yn y Gymuned, roedd y briffiad yn rhan o gyfres o ddigwyddiadau cenedlaethol i ddathlu Wythnos Busnes Cyfrifol.
Gan ddechrau'r cyflwyniad gydag arddangosiad o ddyfyniadau ysbrydoledig gan athronwyr, awduron, pregethwyr ac arweinwyr, amlinellodd Mr Killeen rinweddau byw bywyd sydd â phwrpas yn ei arwain, cyn gofyn i'r rheini oedd yn bresennol i amlinellu eu pwrpas.
“Mae ymddiriedaeth wedi disgyn dros ymyl y dibyn”
Gan symud o ganfyddiadau personol o bwrpas, symudodd Mr Killeen ei drafodaeth at ymddiriedaeth mewn busnes, y cyfryngau a llywodraeth.
Dywedodd: “Am amrywiol resymau, mae ymddiriedaeth wedi disgyn dros ymyl y dibyn, fel y dangosir yn benodol gan Faromedr Ymddiriedaeth Edelman 2017. Ar gyfer y llywodraeth a gwleidyddion yn gyffredinol, ynghyd â'r cyfryngau.
“A'r gwirionedd yw bod busnes ar y cyfan yn sgorio ychydig yn uwch na'r rhan fwyaf mewn cynghrair o berfformiad nad yw'n wych.”
Amlinellodd Mr Killeen sut mae defnyddwyr y dyddiau hyn yn mynnu ac yn disgwyl mwy gan fusnes gan gynnwys cyfrifoldeb, tegwch a chydraddoldeb, cod moeseg trosfwaol a phellgyrhaeddol, oll wedi'u lapio mewn ymddiriedaeth.
Grym er daioni
“Ond wrth gwrs, gall busnes fod yn rym er daioni, ac mae rhai cyfaddawdau'n haws eu cyflawni nag y gallech ei ddychmygu,” dywedodd Mr Killeen.
Amlinellodd sut mae datganiad pwrpas busnes yn gallu chwarae rhan sylfaenol yn y genhadaeth hon cyhyd ag y bo:
- yn berthnasol i'ch busnes craidd
- yn ceisio cyflawni canlyniadau cadarnhaol i'r byd ehangach
- yn mynd y tu hwnt i amcanion Marchnata neu AD swyddogaethol
- yn sbarduno esblygiad y model busnes a'r strategaeth fasnachol
Ochr yn ochr â'r egwyddorion hyn, cyflwynodd Mr Killeen naw nodwedd o frand sy'n cael ei sbarduno gan bwrpas: arweinyddiaeth ddilys, gwobrwyo ymddygiadau cywir, arloesedd, addewid brand dilys, manylder, perthnasoedd dyfnach â chwsmeriaid, effaith sylweddol, cydweithio ar gyfer graddfa ac arweinwyr ar bob lefel.
Daeth uchafbwynt cyflwyniad Mr Killeen â syniadau o ymddiriedaeth a busnes at ei gilydd ochr yn ochr â phwrpas fel cyfle i fynd i'r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
Dywedodd Mr Killeen: “Y nodau hyn yw'r alwad fwyaf erioed am weithredu cyfunol yn canolbwyntio ar ddileu tlodi eithafol, anghydraddoldeb a newid hinsawdd erbyn 2030 ac maent yn gyfle rhagorol i fusnesau sy'n cael eu sbarduno gan bwrpas wneud gwahaniaeth.”
Lle diogel
Daeth y briffiad i ben gyda chyflwyniad byr gan Fiona Hawthorn, Codwr Arian Corfforaethol a Chymunedol yn Llamau UK, a ddilynodd Mr Killeen gyda sgwrs am y ffordd y gall partneriaethau elusennol helpu busnes i nodi, mynegi a gweithredu eu pwrpas.
Cenhadaeth Llamau yw dileu digartrefedd ymhlith pobl ifanc a menywod bregus yng Nghymru. Cred Llamau, a sefydlwyd dros 30 mlynedd yn ôl i ddarparu lle diogel i bobl ifanc digartref aros ym Mro Morgannwg a Chaerdydd, yw na ddylai unrhyw berson ifanc na menyw fregus orfod profi digartrefedd.
Mae Wythnos Busnes Cyfrifol yn ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol sy'n dathlu ochr ddisgleiriaf busnes drwy rannu straeon gwych am lwyddiant busnes cyfrifol.
Mae'r gyfres o Frecwastau Briffio Addysg Weithredol yn rhwydwaith sy'n galluogi cysylltiadau busnes i ddarganfod mwy am y datblygiadau diweddaraf o ran ymchwil gan ein partneriaid diwydiannol.
Os nad oeddech yn gallu bod yn bresennol, gallwch ddal i fyny ar ein llif byw o'r digwyddiad.
A chofrestrwch nawr am y sesiwn friffio nesaf ar 24 Mai 2018 pan fydd Dr Rebecca Scott yn gofyn ‘Pam fod pobl broffesiynol yn talu am boen?’