Ewch i’r prif gynnwys

Ymchwilwyr o ledled y byd yn ymuno â'r Brifysgol

9 Mai 2018

Europe Day

Mae mwy o academyddion talentog o ledled y byd yn ymuno â Phrifysgol Caerdydd i gynnal ymchwil hanfodol fel rhan o raglen sydd wedi'i hariannu gan yr UE.

Mae'r 11 o brosiectau'n cynnwys atal llifogydd, ymchwil canser, trin clefydau'r llygaid, a mynd i'r afael â chlefydau'r llygad a gwibgymalwst.

Mae'r Brifysgol wedi diogelu dros £1.5m ar gyfer Cymrodoriaethau Unigol.

Daw'r arian o raglen Marie Skłodowska-Curie Actions (MSCA) y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n ceisio datblygu sgiliau a symudedd rhyngwladol ymchwilwyr.

Bydd cymrodorion o Tsieina, UDA, Colombia, yr Eidal, Cyprus a Rwmania yn ymuno â'r Brifysgol dros y misoedd nesaf.

Mae'r Brifysgol wedi cyhoeddi'r newyddion ar Ddiwrnod Ewrop (9 Mai), sy'n dathlu heddwch ac undod yn Ewrop.

"Nid oes cynsail i'r llwyddiant hwn ac mae'n dangos bod unigolion o bob rhan o'r byd am ddod i ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni yma yng Nghaerdydd," meddai'r Athro Nora de Leeuw, Dirprwy Is-Ganghellor Rhyngwladol ac Ewrop.

Rhannu’r stori hon