Gwobr i arloeswr catalysis
8 Mai 2018
Mae’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol wedi cyflwyno gwobr nodedig Darlithyddiaeth Faraday, i’r Athro Graham Hutchings, Cyfarwyddwr Sefydliad Catalysis Caerdydd
Dyfarnwyd y wobr am gyfraniad eithriadol yr Athro Hutchings ym maes Cemeg, ac yn fwy penodol am ei ymchwiliadau arloesol ynghylch catalyddion aur.
Mae’r Athro Hutchings yn ymuno â rhestr hir o dderbynwyr nodedig yn hanes 150 mlynedd y wobr, gan gynnwys Dmitri Mendeleev, Ernest Rutherford a Niels Bohr.
Bydd yn cael £5,000 a medal, a bydd yn cyflawni taith ddarlithio ar draws y DU.
Wrth roi sylw am y wobr, dywedodd yr Athro Hutchings: “Braint ac anrhydedd pur yw cael y wobr hon i gydnabod y gwaith ar gatalyddion aur; mae’n wobr ag iddi hanes mawr sy’n dyddio’n ôl i 1869 ac mae cael fy nghynnwys ar y rhestr hir o dderbynyddion nodedig yn anhygoel.”
Ymhlith ei lwyddiannau niferus, darganfyddiad mwyaf gwerthfawr yr Athro Hutchings yw bod gan y metel gwerthfawr aur allu rhyfeddol i gataleiddio adweithiau'n llawer mwy effeithlon nag eraill a ddefnyddir mewn diwydiant.
Mae’r canfyddiad hwn wedi esgor ar filoedd o bapurau cyhoeddedig a phatentau ar draws y byd ac mae’r Athro Hutchings, yn sgîl hyn, wedi dod yn un o’r ymchwilwyr y cyfeirir ato fwyaf ym maes Cemeg.
O ganlyniad i waith arloesol yr Athro Hutchings, mae catalydd aur bellach yn cael ei gynhyrchu mewn ffatri bwrpasol yn Tsieina gan y cwmni cemegau byd-eang Johnson Matthey er mwyn cataleiddio cynhyrchu finyl clorid - prif gynhwysyn PVC.
Dyma'r tro cyntaf ers dros 50 mlynedd i ddull llunio catalydd gael ei ailwampio er mwyn cynhyrchu nwydd cemegol.
Yn fwy arwyddocaol, mae'r catalydd aur wedi cymryd lle catalydd mercwri hynod niweidiol a ddefnyddid yn flaenorol yn y broses gynhyrchu benodol hon. Mae mercwri’n wenwynig dros ben ac yn troi'n anweddol yn ystod y broses hon, felly gall wneud ei ffordd i'r amgylchedd cyfagos. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi datgan ei fod yn fygythiad sylweddol i iechyd dynol.
Mae Confensiwn Minamata ar Fercwri, sy'n gytundeb rhyngwladol rhwymol a lofnodwyd gan yn agos i 140 o wledydd yn 2013, yn cynnwys cymal arbennig ar finyl clorid, gan ddatgan ar ôl 2022, bod yn rhaid i unrhyw ffatrïoedd newydd sy'n cynhyrchu finyl clorid fod yn ddi-fercwri.
Mae amcangyfrifon cyfredol yn awgrymu y gellir gweithgynhyrchu dros 20 miliwn tunnell o finyl clorid bob blwyddyn drwy ddefnyddio'r catalydd aur.
Aeth yr Athro Hutchings yn ei flaen i ddweud, “Bydd disodli mercwri gydag aur fel catalydd ar gyfer marchnata PVC yn cynnig buddiannau mawr i’r gymdeithas ac rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno’r datblygiadau diweddaraf ym maes catalyddion aur yn ystod y daith ddarlithio.”
Ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, dyfarnwyd y Wobr Datrysiadau Amgylcheddol Uwch i’r Athro Hutchings gan y cwmni Eidalaidd ENI, am ddatblygu opsiwn heblaw mercwri.
Disgrifir gwobrau ENI fel 'Gwobr Nobel ymchwil ynni' a dyma un o'r prif wobrau i ymchwilwyr ym maes gwyddor ynni a'r amgylchedd.