Hybu iechyd a lles ym Merthyr
1 Gorffennaf 2015
Mae Prifysgol Caerdydd yn cydweithio â chymunedau ym Merthyr Tudful i hybu iechyd, ffyniant a lles yn rhan o brosiect pwysig
Bydd lansiad Cymunedau Iach, Pobl Iachach ym Merthyr yn cael ei gynnal ym Mhwerdy Dowlais ddydd Iau, 2 Gorffennaf.
Mae'r Brifysgol yn cydweithio'n agos â thrigolion a grwpiau cymunedol yn ardal Gogledd Merthyr. Dyma un o ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf Llywodraeth Cymru, ac mae'n cynnwys y Gurnos, Penydarren a Dowlais.
Rhaglen flaenllaw Llywodraeth Cymru yw Cymunedau yn Gyntaf, a'i nod yw gwella amodau byw a rhagolygon pobl yn y cymunedau mwyaf difreintiedig ledled Cymru.
Bydd tîm y Brifysgol yn cydweithio â phobl leol ac yn gwrando ar eu safbwyntiau am eu cymunedau.
Drwy ganolbwyntio ar wella iechyd a lles a mynd i'r afael â thlodi, bydd y Brifysgol a'r gymuned yn ceisio dod o hyd i atebion gyda'i gilydd er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion a godir.
Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach ar waith yn ardal Cymunedau yn Gyntaf Butetown, Glan yr Afon a Grangetown yng Nghaerdydd, a chynhelir lansiad lleol ar 10 Gorffennaf.
Yn ôl Dr Eva Elliott o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol ac arweinydd Cymunedau Iach, Pobl Iachach: "Mae'r Brifysgol wedi bod yn gweithio gyda chymunedau ym Merthyr ers amser maith, ond mae'r prosiect hwn yn cynnig cyfle gwych i gael effaith enfawr ar fywydau pobl.
"Rydym wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru ac wedi penderfynu canolbwyntio ar glystyrau Cymunedau yn Gyntaf Gogledd Merthyr a Butetown, Glan yr Afon a Grangetown.
"Bydd hon yn bartneriaeth go iawn lle byddwn yn gwrando ar beth sydd ei angen ar y cymunedau hyn. Byddwn hefyd yn cydweithio â nhw i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud ag iechyd, ffyniant a lles, a gwneud cymunedau'n fwy cadarn.
"Bydd y Brifysgol hefyd yn elwa'n aruthrol ar y bartneriaeth hon oherwydd bydd yn llywio ein prosiectau ymchwil yn y dyfodol ac yn ein helpu i adeiladu cysylltiadau cymunedol cryf."
Cynhelir lansiad 'Dathlu ein Cymuned' ym Merthyr rhwng 2 ac 8 o'r gloch, a bydd yn cynnwys côr cymunedol, arddangosfeydd a ffilmiau gan bobl ifanc, amgueddfa dros dro, a sesiwn ragflas am arweinyddiaeth gymunedol gyda Chyngor ar Bopeth.
Mae Cymunedau Iach, Pobl Iachach yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi Rhanbarth Prifddinas Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.
Yn ddiweddar, cytunodd Cymunedau Iach, Pobl Iachach i chwarae rôl allweddol mewn cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru newydd sy'n defnyddio diwylliant i fynd i'r afael â thlodi.