Anrhydedd yr Orsedd i Bennaeth Ysgol y Gymraeg
4 Mai 2018
Bydd Dr Dylan Foster-Evans, Pennaeth Ysgol y Gymraeg, yn cael ei anrhydeddu gan Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni am ei gyfraniad at y Gymraeg ym myd addysg.
Mae'r wobr yn cydnabod cyfraniad Dr Foster-Evans yn lleol ac yn genedlaethol. Ac yntau’n aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae wedi chwarae rhan flaenllaw yn sawl un o ddatblygiadau’r sefydliad, gan gynnwys y Dystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg.
Mae gan Dr Foster-Evans, a benodwyd yn Bennaeth yr Ysgol ym mis Gorffennaf 2017, ddiddordeb arbennig yn rôl y Gymraeg yn y system addysg a'r gwahanol fathau o Gymraeg a ddefnyddir yn y Gymru gyfoes.
Dywedodd Dr Foster Evans "Braint o’r mwyaf yw derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Orsedd, yn arbennig felly yma yng Nghaerdydd. Ni fyddai fy ngwaith ar hanes y Gymraeg yn y ddinas yn bosibl heb gefnogaeth ystod o bartneriaid yng Nghaerdydd a thu hwnt, a bydd yr Eisteddfod eleni yn llwyfan ddelfrydol ar gyfer rhannu’r gwaith hwnnw â chynulleidfa eang. Ar lefel bersonol, wrth gwrs, bydd cael fy urddo i’r Orsedd yn anrhydedd arbennig yr wyf yn ddiolchgar iawn amdano — mae hi’n argoeli i fod yn Eisteddfod gofiadwy iawn."
Yn ogystal ag anrhydeddu Dr Foster-Evans, bydd yr Orsedd yn anrhydeddu’r chwaraewr rygbi rhyngwladol a’r cynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd, Jamie Roberts (MBBCh, 2013), am ei gyfraniad at godi proffil yr iaith ymhlith chwaraewyr ifanc.
Dyma’r cynfyfyrwyr eraill sy’n cael eu hanrhydeddu:
- Elin Jones AM (BSc, 1987)
- Alaw Le Bon (BA, 2013)
- Jeremy Randles BEng (1989)
- Manon Eames (Cynfyfyriwr 2016)
Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni ym Mae Caerdydd, 3 - 11 Awst.