Brecwast Arloesedd a Sgiliau Cymru Business Insider
4 Mai 2018
Digwyddiad brecwast rhad ac am ddim gan Business Insider sy'n ystyried sut i fanteisio i'r eithaf ar arlosedd a sut i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen i wireddu syniadau arloesol yng Ngwesty Park Plaza yng Nghaerdydd ddydd Gwener 18 Mai.
Mae Prifysgol Caerdydd yn noddi'r digwyddiad, ynghyd â Grŵp Educ8, Greenaway Scott ac IQE. Mae digwyddiadau brecwast Insider yn gyfle gwerthfawr i rwydweithio ac yn gyfle i glywed a holi panel o arbenigwyr am amrywiaeth o faterion.
Mae angen syniadau arloesol a gweithwyr medrus i alluogi busnesau i achub y blaen ar y gystadleuaeth. Ar draws dwy drafodaeth banel, bydd y digwyddiad brecwast hwn yn dod ag arloeswyr ac arbenigwyr ynghyd i drafod syniadau a safbwyntiau.
Mae'r siaradwyr yn cynnwys:
- Jane Goodfellow, Pennaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd, Cymorth a Lles Myfyrwyr, Prifysgol Caerdydd
- Leanne Thomas, Cyfarwyddwr Cyswllt, Greenaway Scott
- Dr Jenna Bowen, Prif Swyddog Gweithredu, CMD
- Aidan Daly, Uwch-beiriannydd Cynhyrchion Ffotoneg, IQE
- James Hughes, Rheolwr Gyfarwyddwr, Sphere Solutions
- Alex Currie, Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol, GoCompare
- Grant Santos, Rheolwr Gyfarwyddwr, Educ8
Gallai'r pynciau gynnwys:
- Sut mae creu diwylliant arloesol?
- Sut y gellir meddwl am gysyniadau newydd?
- Sut y gellir manteisio i'r eithaf ar eich arloesedd yn y farchnad?
- Pa fath o sgiliau fydd eu hangen yn fwy ar fusnesau yn y dyfodol?
- Sut mae datblygu a chadw'r sgiliau sydd eu hangen yn eich busnes?
Bydd y ddwy drafodaeth yn cael eu hysgogi gan gwestiynau gan y gynulleidfa, gan ganolbwyntio ar gyngor ymarferol ac enghreifftiau yn y byd go iawn.
Cewch ragor o wybodaeth a chyfle i gofrestru ar gyfer y digwyddiad rhad ac am ddim hwn drwy wefan Insider.