Academyddion yn myfyrio ar gynnydd y mudiad ffeministaidd
4 Mai 2018
Bydd ymchwilwyr blaenllaw ym maes y gyfraith a rhywedd yn trafod sut y gellir cael gwared ar ragfarn ar sail rhyw am byth.
Bydd y gynhadledd yn nodi 30 mlynedd ers cyhoeddi 'The Sexual Contract' gan Carole Pateman, Athro Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Roedd y gwaith arloesol, sy'n destun allweddol i fyfyrwyr o hyd, yn tynnu sylw at sut mae menywod yn dal i fod mewn sefyllfa israddol i ddynion, er gwaethaf y myth bod pob dinesydd yn gyfartal dan y contract cymdeithasol.
Dywedodd un o drefnwyr y gynhadledd, Dr Sharon Thompson, Uwch-ddarlithydd yn y Gyfraith: "Dri degawd yn ddiweddarach, mae'r materion sy'n codi yn y llyfr hwn yr un mor berthnasol ag erioed. Mae anghydraddoldeb rhwng y rhywiau o hyd ym mhob agwedd ar fywyd. Mae'n hanfodol, felly, bod ymchwil yn y maes hwn yn parhau er mwyn i academyddion allu cynnig syniadau a dadansoddiad i lywio'r ddadl."
Cynhelir y digwyddiad ar 10 a 11 Mai gan y grŵp ymchwil y Gyfraith a Rhywedd, rhan o Ganolfan y Gyfraith a Chymdeithas Caerdydd a Feminist Legal Studies, cyfnodolyn blaenllaw. Bydd ysgolheigion o'r DU, UDA, Ewrop, Awstralia a Canada a ysbrydolwyd gan gasgliadau'r llyfr yn archwilio pa mor berthnasol ydyw heddiw, ac yn cynnig dealltwriaeth newydd o wahanol berthnasau contractaidd sy'n cynnwys priodi a chyflogaeth.
Ychwanegodd darlithydd yn y Gyfraith, ac un o drefnwyr y gynhadledd, Dr Lydia Hayes: "Fel ysgolheigion cyfreithiol-gymdeithasol, mae The Sexual Contract wedi chwarae rhan bwysig ac wedi trawsnewid ein dealltwriaeth o'r gyfraith a rhywedd. Mae ein cynhadledd yn gyfle gwych i ddathlu'r campwaith ffeministaidd hwn ac ymgysylltu â'n siaradwyr, yr Athro Carole Pateman a'r Athro Joan Tronto."
Dywedodd Dr Russell Sandberg, Pennaeth Adran y Gyfraith: "Mae'r trafodaethau ynghylch anghydraddoldeb rhwng y rhywiau heddiw yn golygu ei bod hi'n bwysig i ni adlewyrchu hyn yn ein hymchwil a'n gweithgareddau addysgu. Rydw i wrth fy modd bod ein grŵp ymchwil y Gyfraith a Rhywedd – dan arweiniad Dr Lydia Hayes, Dr Daniel Newman a Dr Sharon Thompson – yn arwain y maes gyda'i waith."