Digwyddiad Dathlu Mentoriaid Myfyrwyr
4 Mai 2018
Yn ddiweddar dathlodd y Cynllun Mentora Myfyrwyr lwyddiannau mentoriaid myfyrwyr o Ysgol Gwyddorau'r Ddaear a'r Môr.
Eleni, graddiodd 3 myfyriwr o'r cynllun. Rhoddwyd Tystysgrif Mentor Myfyrwyr i Philippa Smith a Nia Jones, a chyflwynwyd Tystysgrif Mentor Uwch i Amelia Huggons.
Mae Cynllun Mentoriaid Myfyrwyr Prifysgol Caerdydd yn recriwtio myfyrwyr israddedig i fentora grwpiau bach o fyfyrwyr yn eu blwyddyn gyntaf i bontio'n fwy cyfforddus i fywyd yn y Brifysgol. Mae hwn yn gyfle gwerthfawr i fyfyrwyr wirfoddoli neu roi rhywbeth yn ôl, gwneud ffrindiau, a gwella eu CV.
Yn y Digwyddiad Dathlu, cymeradwyodd yr Athro Amanda Coffey, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Safonau Academaidd, y mentoriaid myfyrwyr am eu hymroddiad a'u gwaith caled, a'u diolch am eu cyfraniad cadarnhaol at brofiad y myfyriwr.
I raddio fel mentor myfyriwr, mae pob myfyriwr yn cael hyfforddiant a chefnogaeth er mwyn cyflawni ei rôl yn llwyddiannus. Maent yn datblygu sgiliau cyflogadwyedd hanfodol ac mae'r holl oriau a gwblhawyd yn cyfrif tuag at Wobr Caerdydd.
Os mae hyn wedi eich ysbrydoli i ddod yn fentor myfyrwyr, cysylltwch â Dr James Lambert-Smith i gael rhagor o wybodaeth.