Therapi Galwedigaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn gydradd gyntaf yn y DU
4 Mai 2018
Prifysgol Caerdydd yw'r Brifysgol orau yng Nghymru yn Nhablau Cynghrair Complete University 2019, ar ôl codi 4 safle i gyrraedd safle 33 yn y DU.
Roedd deg o'r 45 o bynciau yng Nghaerdydd yn y deg uchaf, ac roedd Therapi Galwedigaethol yn gydradd gyntaf (gyda Phrifysgol Huddersfield).
Roedd Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd hefyd ymhlith y deg uchaf ar gyfer Nyrsio a Ffisiotherapi, ar ôl i Nyrsio ddringo dau safle i gyrraedd 9fed yn y DU.
Nyrsio a Therapi Galwedigaethol oedd â'r sgôr uchaf ar gyfer rhagolygon graddedigion yn eu tablau cynghrair.
Dywedodd yr Athro David Whitaker, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd: "Ein blaenoriaeth fel Ysgol yw rhoi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr i'w helpu i ddatblygu'n weithwyr proffesiynol medrus, gwybodus a thosturiol.
"Rwy'n falch dros ben o'n staff a'n myfyrwyr; mae'r ffaith i ni gyrraedd y deg uchaf ar gyfer Nyrsio a Ffisiotherapi a chadw ein lle yn y safle cyntaf ar gyfer Therapi Galwedigaethol yn ganlyniad eu hymrwymiad a'u gwaith caled."
Mae The Complete University Guide yn dadansoddi 131 o brifysgolion ledled y DU, ac yn eu sgorio yn ôl ffactorau fel rhagolygon graddedigion, ymchwil, boddhad myfyrwyr, a safonau mynediad.
Mae saith o'r 10 pwnc uchaf yn y Brifysgol yng Ngholeg y Gwyddorau Biofeddygol a Bywyd, gan gynnwys:
- Therapi Galwedigaethol (1af)
- Optometreg a Gwyddorau'r Golwg (3ydd)
- Deintyddiaeth (4ydd)
- Ffisiotherapi (8fed)
- Technoleg Feddygol (8fed)
- Nyrsio (9fed)
- Fferylliaeth (10fed)
Y deg bwnc arall sydd yn y 10 uchaf yw:
- Astudiaethau Celtaidd (5ed)
- Pensaernïaeth (7fed- cynnydd)
- Peirianneg Gyffredinol (9fed)