Mae angen gwella gofal diwedd oes
3 Mai 2018
Mae astudiaeth sy'n edrych ar ganfyddiadau a phrofiadau personol cleifion, teuluoedd a gweithwyr iechyd proffesiynol wedi amlygu'r angen i wella'r ffordd y caiff symptomau eu rheoli mewn gofal diwedd oes.
Mae'r dadansoddiad gan Ganolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie ac Ysgol y Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Caerdydd wedi nodi sawl maes triniaeth y canfuwyd yn aml nad oeddent yn cael eu rheoli yn y ffordd orau gan weithwyr iechyd proffesiynol; poen, anawsterau anadlu, maeth a hydradu. Nodwyd bod maeth a hydradu'n benodol yn "bryder sylweddol", yn enwedig i ofalwyr.
Nodwyd mai poen oedd y maes rheoli symptomau a drafodwyd amlaf gan ymatebwyr gyda llawer o ofalwyr mewn profedigaeth yn rhannu profiadau gofidus neu drawmatig o boen eu perthnasau, nad oedd modd ei rheoli. Cwestiynodd nifer gymhwysedd a hyder gweithwyr iechyd proffesiynol wrth reoli poen yn effeithiol, tra bo eraill yn amlygu amharodrwydd i ragnodi neu weinyddu analgesia digonol fel rhwystr i reoli poen eu perthynas.
Ar sail eu dadansoddiad, dywed yr ymchwilwyr bod angen ymchwil pellach i brofi ymyriadau yn y meysydd hyn, ac yn y pen draw, i lywio ymagwedd at ofal clinigol ar sail tystiolaeth. Er enghraifft, mae'r ymchwilwyr yn nodi pryderon gofalwyr ynghylch poen na chaiff ei chydnabod mewn cleifion sy'n methu â chyfathrebu'n llafar, fel y rheini â dementia, gan nodi mai cyfyngedig yw'r dystiolaeth ar hyn o bryd ynghylch dilysrwydd offerynnau asesu poen.
Disgrifiodd gofalwyr mewn profedigaeth brofiadau gofidus yn ymwneud â maeth a hydradu artiffisial. Dywed yr ymchwilwyr fod hyn yn amlygu'r angen am well cyfathrebu gyda chleifion a'u gofalwyr am broses marw a'i heffaith ar fwyta ac yfed. Yn ogystal â phryder ynghylch gwrthod bwyd a hylifau, disgrifiodd rhai gofalwyr achlysuron lle cafwyd pwysau gan weithwyr iechyd proffesiynol i roi maeth artiffisial er ei fod yn erbyn dymuniadau'r claf.
Roedd nifer o'r gweithwyr iechyd proffesiynol yn teimlo bod angen ymchwil pellach i bennu anghenion maeth pobl tua diwedd eu hoes a bod angen sail tystiolaeth gryfach o ran pryd ac os y dylid gweinyddu maeth artiffisial. Datblygwyd canllawiau'n amlinellu hydradu a maeth ar ddiwedd oes wedi hynny gan y Coleg Nyrsio Brenhinol yn 2015, a gan y Cyngor Meddygol Cyffredinol yn 2010, ond nid yw eu heffaith ar ymarfer yn wybyddus ar hyn o bryd.
Dywedodd Annmarie Nelson, Athro Gofal Ategol a Lliniarol a Chyfarwyddwr Gwyddonol Canolfan Ymchwil Gofal Lliniarol Marie Curie:
"Er gwaethaf y datblygiadau rydym ni'n eu gweld ym maes gofal lliniarol, mae symptomau fel poen a diffyg anadl yn parhau’n bryderon pwysig i bobl. Yr hyn mae'r dadansoddiad hwn yn ei ddangos yw bod pryderon sylweddol ynghylch symptomau afreolus yn bodoli ymhlith cleifion a gofalwyr a hefyd ymhlith rhai gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n teimlo y dylid cael arweiniad cliriach, yn enwedig mewn perthynas â maeth a hydradu."
Ychwanegodd Dr Jessica Baillie, Darlithydd mewn Nyrsio Oedolion a Chymrawd Ymchwil Ôl-ddoethurol RCBC Cymru yn Ysgol y Gwyddorau Iechyd Prifysgol Caerdydd:
"Er bod y canfyddiadau'n nodi pwysigrwydd sgyrsiau agored a gonest rhwng gweithwyr iechyd proffesiynol a chleifion a gofalwyr, ceir angen amlwg hefyd am dystiolaeth fwy cadarn ynghylch ymyriadau a chydnabyddiaeth ehangach i'r ffaith fod ymchwil gofal lliniarol ar hyn o bryd yn cael ei danariannu. Mae’n hanfodol y dylai'r dystiolaeth hon lywio ymarfer clinigol er mwyn lleihau gofid i gleifion a'u teuluoedd."