25 o enillwyr ysgoloriaeth yn dod i Brifysgol Caerdydd
29 Mehefin 2015
Mae 25 o ddarpar fyfyrwyr sy'n bwriadu astudio ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Ysgoloriaethau Cymhelliant y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar gyfer 2015/16
Bydd bron i 180 o fyfyrwyr yn elwa o dderbyn cefnogaeth ychwanegol yn ystod eu cyfnod yn y Brifysgol fis Medi diolch i ysgoloriaethau'r Coleg Cymraeg.
Bydd pob unigolyn yn derbyn £1,500 neu £3,000 dros dair blynedd a bydd gofyn iddynt ymgymryd â chyfnod o brofiad gwaith yn ogystal â sefyll Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg o ganlyniad.
Mae'r ysgoloriaethau wedi eu dyfarnu eleni i fyfyrwyr fydd yn astudio mewn prifysgolion ar draws Cymru a hynny mewn ystod eang o feysydd. Yng Nghaerdydd mae'r darpar myfyrwyr yn bwriadu astudio amrywiaeth o bynciau sy'n cynnwys y Gyfraith, Gwleidyddiaeth, Geneteg, Cymraeg, Cymdeithaseg a Meddygaeth.
Cyfle newydd i ddarpar feddygon
Am y tro cyntaf eleni roedd Meddygaeth yn gymwys ar gyfer Ysgoloriaeth o £1,500 ac un fanteisiodd ar y cyfle oedd Sean Downes o Ysgol Morgan Llwyd yn Wrecsam. Enillodd Sean yr ysgoloriaeth i astudio'r pwnc ym Mhriyfsgol Caerdydd:
''Bydd ysgoloriaeth y Coleg o gymorth mawr i mi a bydd astudio'r pwnc yn rhannol trwy'r Gymraeg yn fy ngalluogi i gyfathrebu â chleifion yn hyderus. Roedd y broses ymgeisio yn syml a chyflym ac mae'r buddion byr a hir dymor yn ardderchog."
Ym Mhrifysgol Caerdydd gellid astudio oddeutu treian o gyrsiau gradd ym Meddygaeth a'r Gwyddorau Iechyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn falch i ddarparu gweithlu sy'n siarad Cymraeg ar gyfer y GIG yng Nghymru a chynnig gwasanaeth i gleifion y wlad yn eu mamiaith.
Ysgoloriaethau Meistr
Mae'r Coleg Cymraeg hefyd yn cynnig Ysgoloriaethau Meistr gwerth £3,000. Bydd Ysgoloriaethau Meistr y Coleg 2015/2016 yn cau ar 13 Gorffennaf 2015 ac mae pecyn ymgeisio llawn ar wefan y Coleg.
Gallwch weld rhestr gyflawn o enillwyr Ysgoloriaeth Cymhelliant y Coleg ar y wefan.