Perthyn: taith darlithydd o’r dosbarth gweithiol
2 Mai 2018
Yn y 1990au, roeddwn i’n blentyn dosbarth gweithiol, o ystâd cyngor nid nepell o Rydychen, lle nad oedd unrhyw un yn mynd i’r chweched dosbarth, heb sôn am brifysgol. Dwi’n cofio cael bag chwarae arian enfawr, côt fawr borffor, a phyrm. Tua 1992, daeth fy rhieni ar draws Cynllun Lleoedd a Gynorthwyir y Llywodraeth Geidwadol. Dwi’n cofio cael cyfweliad â’r brifathrawes mewn ysgol annibynnol leol a gwnaethon ni siarad llawer am yr hyn yr oeddwn i’n ei ddarllen, yn arbennig The Lord of the Rings.
Ychydig wedi hynny, sefais yr arholiad mynediad. Ar gyfer daearyddiaeth, cefais fap o Awstralia i’w labelu ac ysgrifennais Alice Springs ar bob saeth gan fy mod i’n gwybod y byddai un ohonynt yn gywir. Mewn mathemateg, ysgrifennais lawer o farciau cwestiwn - roedd yn un pwnc lle roeddwn wastad ar ei hôl hi.
Rhwng arholiadau, byddai rhai o’r disgyblion yn edrych ar fy ôl. Doedd ganddyn nhw ddim pyrms. Na chotiau porffor. Na bagiau chwaraeon mawr arian. Roedden nhw’n ffeind iawn, yn fy nghanmol ar fy siwmper streips (yr oedd fy mam wedi rhoi benthyg imi) ac roedd ganddyn nhw wallt hyfryd. Ond dyna pryd y sylweddolais fy mod i’n wahanol.
Yng ngwanwyn ‘93, cefais le yn yr ysgol, wedi’i ariannu gan y Cynllun Lleoedd a Gynorthwyir. Ond thalodd hynny ddim am bethau ychwanegol fel llyfrau, tripiau ac arian cinio. Roedd grant gwisg ysgol ar y dechrau, ond doedd hwnnw ddim yn talu am bopeth, yn enwedig gan mai o un siop benodol yn unig yr oedd modd prynu’r wisg ysgol. Ches i erioed wisg sbâr.
Dywedodd merch yn y dosbarth Gwyddoniaeth Gartref wrthyf, “Dwi’n hoffi fy becyn gwnïo”. Oedd hi o ddifrif? Roedd gan bawb arall fasgedi o siopau mawr. Roedd gen i dwb hufen iâ, wedi’i orchuddio â ffelt browngoch a las. Gwnaeth mam ymdrech fawr â hwnnw, ac fe’i cedwais am flynyddoedd lawer.
Pan es i’r ysgol, cymrodd flwyddyn i mi ddal i fyny. Roeddwn i fel sbwng. Cyn hynny, fi oedd y plentyn a gafodd ei fwlio am fod yn rhy glyfar. Yn yr ysgol wladol, cuddiodd giang o ferched fy mag cinio tu ôl i seston toiled am hwyl. Ond yn yr ysgol annibynnol, roedd dysgu’n iawn. A dweud y gwir, roedd disgwyl imi wneud yn dda yn academaidd.
Ond roedd pethau gwahanol i ymdopi â nhw. Unwaith, dywedodd merch wrthyf nad oedd ei thad yn credu mewn tai cyngor. Sut ydych chi’n ymateb i ddirmyg cynhenid rhywun am yr adeilad sy’n eich cadw chi’n ddiogel gyda’r nos?
Wrth edrych yn ôl, prin y galla i gredu faint o amser a dreuliais i’n poeni am arian, er taw’r holl bwynt oedd codi fy nyheadau. Ac i gymryd y pyrm, y gôt fawr borffor, a’r bag chwaraeon arian enfawr i ffwrdd ohonof. Os taw dyhead oedd pwrpas y peth, fe weithiodd. Ond beth oedd y gost? Y gost o wastad deimlo nad ydych yn ddigon da? Bob amser yn gorfod fy mhrofi fy hun? Neu ddim teimlo perthyn?
Erbyn diwedd 1997, cefais gynnig i astudio Saesneg yng Ngholeg St Anne, Prifysgol Rhydychen. Roedd y cyfweliad yn anodd, ond hidiodd o ddim arnaf. Mewn ffordd ryfedd, fe wnes ei fwynhau. Er, sylweddolais fy mod wedi bod yn ynganu Coleridge yn anghywir yr holl amser.
Ond doedd plant o Blackbird Leys ddim yn mynd i’r brifysgol ac yn sicr ddim yn mynd i Rydychen. Pan es i nôl fy ngraddau, ni fyddai unrhyw un yn edrych arnaf. Roeddwn i’n gwybod ei fod yn ddrwg. Roedd yr embaras o ddweud wrth bawb fy mod i heb ei wneud yn ofnadwy. Derbyniais fy nghynnig wrth gefn yn teimlo fel methiant.
Symudais o ystâd cyngor i ganol y Siroedd Cartref lle roedd pawb wedi bod i ysgolion da, gyda gwallt hyfryd ac yn mynd adref ar y penwythnos i lefydd fel Virginia Water. Tymor barais i. Doedd fy nhiwtor personol ddim yn gwybod fy enw pan es ato i dynnu fy enw’n ôl. Sylwodd neb arnaf yn dianc a rhoi’r gorau iddi’n ddistaw.
Rai blynyddoedd yn ddiweddarach, gyda dau blentyn bach, dechreuais dystysgrif sylfaen rhan amser ym Mhrifysgol Rhydychen, yn yr Adran Addysg Barhaus. Dyma pryd newidiodd bopeth i mi. Roedd fy hyder dal yn isel. Roeddwn i dal i deimlo’n fethiant, yn y bôn. Ond roedd gennyf y tiwtoriaid gorau oll, a dechreuais gredu ynof fy hun eto.
Ymlaen dros ddegawd a dyma fi â PhD a swydd darlithydd yn adran Addysg Barhau a Phroffesiynol Prifysgol Caerdydd, yn addysgu dysgwyr sy’n oedolion ac yn rhedeg rhaglen sy’n debyg iawn i’r un a roddodd ail gyfle imi. Dwi’n dal i deimlo’n lletchwith, yn anghyfforddus a ddim yn perthyn. Ond, yr hyn sylwais i arno ydy, yn fwy nag erioed, fod y teimladau hynny’n diflannu pan ddaw myfyriwr ataf ac yn dweud “Alla i ddim gwneud hyn - dydy hwn ddim i bobl fel fi” ac y galla i ddweud: Dwi’n deall, mae’n deimlad ofnadwy, ond mae addysg i chi. Gallwch wneud hyn. A byddaf i’n eich helpu.
I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen Llwybrau i Radd yn y dyniaethau, gan gynnwys Llenyddiaeth Saesneg, Iaith Saesneg, Athroniaeth, Ysgrifennu Creadigol, Y Cyfryngau a Newyddiaduraeth a Hanes, ewch i’r gwefannau addysg Barhaus a Phroffesiynol.
Mae’r erthygl wreiddiol i’w gweld yn ei chyfanrwydd ar Wales Art Review.