Cymru yn croesawu myfyrwyr o’r Unol Daleithiau
26 Mehefin 2015
Wyth myfyriwr dawnus yn ymweld â Chymru i astudio diwylliant, hanes, gwleidyddiaeth a thirwedd y genedl
Israddedigion o brifysgolion ledled yr Unol Daleithiau yw'r rhain a'u nod yw astudio daearyddiaeth, diwylliant, treftadaeth a hanes Cymru. Byddant yn ymweld ag amgueddfeydd, orielau a thirnodau twristiaeth i gael gwybodaeth am newid economaidd a chymdeithasol.
Byddant yn ymweld â myfyrwyr o Gymru, y DU a thu hwnt o amrywiaeth eang o gefndiroedd, ac yn gweld rhanbarthau unigryw Cymru a'i phobl.
Mae pumed Athrofa Haf Fulbright Cymru, a gynhelir gan Brifysgolion Aberystwyth, Bangor a Caerdydd, yn cynnig credydau sy'n mynd tuag at raddau terfynol y myfyrwyr.
Yn ôl yr Athro Bill Jones o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol a Chyfarwyddwr y Cwrs ar gyfer Adran Prifysgol Caerdydd: "Dyma bumed flwyddyn Sefydliad Haf Fulbright Cymru a phleser o'r mwyaf yw cael gweithio gydag 8 myfyriwr dawnus Americanaidd eto eleni sydd mor frwdfrydig i ddysgu mwy am Gymru a'i phobl. Mae'r ffaith fod y rhaglen hon yn llwyddo i ddenu rhai o fyfyrwyr gorau America yn dangos y parch sydd tuag at y rhaglen yn UDA."
Bydd y cwrs chwe wythnos yn cynnwys arbenigeddau ymchwil ac addysgu y tair prifysgol. Yn ystod y pythefnos cyntaf yng Nghaerdydd, bydd myfyrwyr yn astudio newid economaidd a diwydiannol yn ne Cymru dros y tair canrif ddiwethaf. Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys taith o gwmpas Big Pit ym Mlaenafon a gwibdaith i arfordir Caerdydd ar long arolwg y Brifysgol, Guiding Light. Ym Mangor, bydd y myfyrwyr yn ymchwilio i sut mae cenedl fach yn arddel ei hunaniaeth, ei thraddodiadau, ei diwylliant a'i hiaith mewn byd cynyddol fyd-eang. Ym Mhrifysgol Aberystwyth, bydd yr israddedigion yn edrych ar y materion economaidd a chymdeithasol sy'n newid yng nghanolbarth Cymru.
Mae Comisiwn Fulbright wedi bod yn hyrwyddo heddwch a dealltwriaeth ddiwylliannol drwy ysgoloriaethau addysgol ers dros 60 mlynedd. Mae Athrofeydd yr Haf wedi'u dylunio i gyflwyno'r myfyrwyr i'r DU yn ogystal â datblygu eu sgiliau academaidd ac arweinyddiaeth.
Bydd y myfyrwyr yng Nghymru am chwe wythnos i gyd. Byddant yn aros yng Nghaerdydd am y pythefnos cyntaf cyn treulio dau bythefnos arall yn astudio ym Mhrifysgolion Bangor ac Aberystwyth.