£1.2m i gefnogi codwyr Caerdydd
1 Mai 2018
Bydd Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn cael £1.2m i gefnogi eu rôl yn y Sefydliad Codio, sy'n gweithredu ledled y DU.
Bydd yr arian yn helpu i greu'r genhedlaeth nesaf o arbenigwyr digidol, yn ôl cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams [dydd Mawrth, 1 Mai].
Mae'r buddsoddiad yn ychwanegu at ymgyrch £1.3m i gysylltu disgyblion Cymru â byd codio, Cracio'r Côd, a gyhoeddwyd y llynedd.
Dangosodd ymchwil o 2016 fod y sector digidol yn cyflogi 40,000 o bobl ac yn werth dros £8.5 biliwn mewn trosiant i economi Cymru.
Bydd Prifysgolion Caerdydd ac Abertawe yn elwa'n uniongyrchol ar yr arian, a ddyrennir drwy CCAUC, fydd yn cynnwys £0.02m i gefnogi mentrau codio mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
Ffurfiwyd y Sefydliad Codio gan Lywodraeth y DU fel rhaglen sy'n canolbwyntio ar wella'r ddarpariaeth sgiliau digidol ledled y DU. Mae'n cynnwys prifysgolion, busnesau ac arbenigwyr o fyd diwydiant, gan gynnwys IBM, Cisco, BT a Microsoft.
Bydd yr arian yn talu am gyfrifiaduron a chyfarpar cysylltiedig ar gyfer labordai Technocamps sy'n cynnig profiad ymarferol i athrawon a dysgwyr o amrywiaeth o weithgareddau ac offer codio. Bydd hefyd yn ariannu swyddogion cyswllt ysgolion/busnesau, a chlybiau codio ymgysylltu cymunedol gan yr Academi Meddalwedd Genedlaethol.
Mae'r Academi eisoes yn cymryd camau i lenwi'r bwlch sgiliau. Mae'n cynnig profiad dysgu unigryw i fyfyrwyr drwy ei raglen addysgu sy'n canolbwyntio ar y diwydiant. Mae myfyrwyr yn gweithio ar brosiectau yn y byd go iawn gydag arbenigwyr o fyd diwydiant, gyda'r nod o sicrhau eu bod yn 'barod i weithio' ar ôl graddio."
Dywedodd yr Athro Stuart Allen, Pennaeth yr Ysgol Cyfrifiadureg a Gwybodeg: "Mae'r Sefydliad Codio yn ychwanegu at y bartneriaeth lwyddiannus rhwng Academi Meddalwedd Genedlaethol y Brifysgol, Llywodraeth Cymru, ac arweinwyr byd diwydiant, er mwyn mynd i'r afael â'r diffyg cenedlaethol o ran graddedigion rhaglennu a pheirianneg meddalwedd medrus. Mae ei ffocws ar ddatblygu sgiliau a gwybodaeth drwy brofiad ymarferol ar brosiectau dan arweiniad byd diwydiant yn cynhyrchu graddedigion deniadol sy'n barod i gamu'n syth i yrfaoedd fel peirianwyr meddalwedd masnachol."
Gwnaed y cyhoeddiad gan Ysgrifennydd y Cabinet yn Ysgol Gynradd Gatholig St Philip Evans, Caerdydd, sy'n cynnal clwb codio.
Mae côd cyfrifiadurol yn set o reolau neu gyfarwyddiadau a ddefnyddir i greu meddalwedd, apiau a gwefannau. Mae meistroli codio yn galluogi defnyddwyr i ddod yn awduron technoleg.
Ers cyhoeddi Cracio'r Côd, mae dros 200 o athrawon wedi cael hyfforddiant codio. Ledled Cymru, yn 2017/18, cynhaliodd Technocamps tua 200 o weithdai i dros 5,250 o ddisgyblion mewn 85 o ysgolion cynradd a 25 o ysgolion uwchradd.
Dywedodd David Blaney, Prif Weithredwr CCAUC: "Bydd yr arian yn galluogi prifysgolion i gynnal rhaglenni gradd newydd a diwygiedig mewn Peirianneg Meddalwedd, Deallusrwydd Artiffisial a Seibrddiogelwch, gyda llawer mwy o gyfleoedd i gael mynediad at brofiad gwaith. Bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar y 'gadwyn gyflenwi' o godwyr yng Nghymru: gan gynnwys gwella sgiliau athrawon a chynnal gweithdai cyfrifiadureg, neu greu graddedigion technegol sy'n barod ar gyfer byd gwaith. Drwy lysgenhadon STEM myfyrwyr, bydd prifysgolion yn helpu i gael gwared ar ffactorau sy'n rhwystro pobl rhag cymryd rhan, ac yn cynnig mwy o gyfleoedd i fenywod gymryd rhan mewn cyfrifiadureg."
Dywedodd yr Athro Faron Moller, Cyfarwyddwr Technocamps ac Arweinydd Sefydliad Codio Cymru: "Gyda rhaglen Technocamps drwy Gymru gyfan, a thrwy gyrsiau prentisiaeth peirianneg meddalwedd newydd i gyflogeion amser llawn o gwmnïau ledled De Cymru, mae Prifysgolion Cymru ac Abertawe gyda'i gilydd yn rym pwerus yng Nghymru ar gyfer mynd i'r afael â'r diffyg sgiliau cenedlaethol yng ngweithlu'r economi ddigidol."