Astudiaeth afon 30 mlynedd yn canfod argyfwng difodiant sydd heb ei ystyried
30 Ebrill 2018
Mae newid byd-eang yn achosi i rywogaethau dŵr croyw ddiflannu ddwywaith yn gyflymach nag mewn unrhyw ecosystem arall, ac mae gwaith ymchwil newydd, sydd wedi bod yn astudio afonydd a nentydd Cymru ers dros 30 mlynedd, wedi canfod bod nifer o infertebratau arbenigol yn diflannu.
Mae Prifysgol Caerdydd wedi monitro pedwar nant ar ddeg yn Arsyllfa Llyn Brianne, gan gasglu data o flaenddyfroedd afon Tywi yng Nghymru ers 1981. Roedd y data hwn yn dangos bod organebau arbenigol, fel llyngyr lledog ysglyfaethus (predatory flatworms), pryfaid y cerrig penodol, neu larfae pryfed pric, yn dirywio’n gyflym, gan fod eu hanghenion penodol yn eu gwneud yn agored i newidiadau yn yr hinsawdd.
Nid yn unig mae newid yn eu hamgylchedd yn achosi i’w niferoedd ostwng, ond unwaith y mae’r rhywogaethau hyn yn brin, roedd yr ymchwil hefyd yn dangos fod eu gallu i ailwladychu (recolonise) y cynefinoedd yr oeddent yn arfer byw ynddynt yn gyfyng.
Mae’r astudiaeth, a gynhaliwyd gan Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd, Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd, Prifysgol Trento, Canolfan Ymchwil Bioamrywiaeth integreiddiol yr Almaen ac Adran Cyfrifiadureg Prifysgol Martin Luther, nid yn unig yn dangos bod infertebratau arbenigol yn prinhau, ond hefyd y gallai hyn roi rhybudd cynnar o newidiadau mwy i ddod.
Steve Ormerod, o Ysgol y Biowyddorau ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae ecolegwyr dŵr croyw wir yn pryderu am drafferthion afonydd, llynnoedd a gwlypdiroedd y byd, a’r gyfradd y maent yn colli planhigion ac anifeiliaid o bob math.
"Eto, nid yw llawer o bobl yn ymwybodol o'r drasiedi barhaus hon sy’n cuddio o dan arwyneb y dŵr. Mae ein canlyniadau yn dangos bod y datblygiad tuag at ddifodiant rhywogaethau yn gallu dechrau mewn ffordd gynnil, er enghraifft, lle mae newid yn yr hinsawdd yn achosi i niferoedd brinhau cyn iddynt ddiflannu’n sydyn.
"Rydym ni eisoes wedi colli un rhywogaeth fel hyn ar draws ardaloedd mawr o Gymru, y llyngyr lledog Crenobiaalpine. Ei arbenigedd yw ysglyfaethu mewn nentydd dŵr lled-oer (cool).
Meddai Dr Stefano Larsen, Prifysgol Trento: "Mae difodiant rhywogaethau yn fater byd-eang pwysig bellach, ond mae’n cael ei weld yn bennaf fel newidiadau ar raddfa fawr lle caiff cynefinoedd cyfan eu colli, eu meddiannau gan rywogaethau anfrodorol, eu llygru neu eu hecsbloetio yn ormodol.
"Nid yw tueddiadau lleol wedi bod mor glir, yn arbennig o astudiaethau hirdymor ar safleoedd fel Llyn Brianne, lle mae absenoldeb aflonyddwch ecolegol difrifol yn golygu bod newidiadau mwy cynnil yn weladwy.
"Mae ein hastudiaeth yn dangos sut mae rhywogaethau sydd ag anghenion ecolegol arbennig yn ffurfio cyfran lai a llai o’r rhywogaethau yn y nentydd rydym ni’n eu hastudio, ac mae perygl y byddant yn diflannu’n gyfan gwbl."