Gwanwyn cynnar yn arwain at fwyd nad yw'n cydweddu
30 Ebrill 2018
A ninnau'n disgwyl tywydd cynhesach yn y gwanwyn yn sgîl y newid yn yr hinsawdd, mae ymchwil ar y cyd wedi darganfod y bydd “diffyg cydweddu cynyddol” rhwng yr adar sy'n deor yn y goedwig â'r niferoedd uchaf o lindys.
Defnyddiodd yr ymchwilwyr ddata a gasglwyd ar draws y DU i astudio dyfodiad dail coed derw a lindys yn y gwanwyn, ac amseriad nythu gan dair rhywogaeth o adar: titw glas, titw mawr a gwybedog brith.
Buont hefyd yn rhoi damcaniaeth ar brawf mai rhai rhywogaethau adar yn ne Prydain a allai ddioddef fwyaf oherwydd bod mwy o effaith diffyg cydweddu – ond ni ddaethant o hyd i unrhyw dystiolaeth o hynny.
Yn ôl Jeremy Smith o Brifysgol Caerdydd: "Mae toreth o lindys yn dod allan i'r agored mewn coedwigoedd am gyfnod byr o amser, ac mae rhai adar coedwig yn amseru eu cyfnod bridio i gyd-fynd â hynny, er mwyn bwydo eu cywion.
"Mae newid yn yr hinsawdd yn achosi gwanwyn i ddod yn gynharach, gyda dail a lindys yn ymddangos yn gynharach. Felly, mae angen i adar fridio yn gynharach er mwyn osgoi colli’r digonedd o fwyd."
Yn ôl Dr Malcolm Burgess o Brifysgol Caerwysg a'r RSPB, "Daethom i’r casgliad, po gynharaf y daeth y gwanwyn, lleiaf y niferoedd o adar sy’n gallu wneud hynny.
“Gwelwyd y diffyg cydweddu mwyaf ymhlith gwybedog brith – fel adar mudol, nid ydynt yn y DU yn y gaeaf ac felly mae eu gallu i ymateb i dywydd gwanwynol cynharach dipyn yn is."
Mae'r astudiaeth yn cyflwyno'r asesiad cyntaf ynghylch p’un a yw effaith y diffyg cydweddu'n fwy amlwg yn ne Prydain o gymharu â’r gogledd.
Mae rhai wedi awgrymu y gallai poblogaethau adar y gogledd gael eu ‘diogelu’ rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd o’r fath.
Yn ôl Dr Ally Phillimore, o Brifysgol Caeredin: "Ni ddaethom o hyd i unrhyw dystiolaeth o amrywiad rhwng y gogledd a'r de o ran ddiffyg cydweddu rhwng lindys ac adar, ar gyfer unrhyw un o'r rhywogaethau adar. Felly, nid yw dirywiad ym mhoblogaeth yr adar pryfysol yn ne Prydain, yn cael ei achosi gan fwy o diffyg cydweddu yn y de na'r gogledd yn ôl pob golwg."
Yn ôl Dr Karl Evans, o adran Gwyddorau Anifeiliaid a Phlanhigion Prifysgol Sheffield "Awgryma ein gwaith, wrth i'r gwanwyn gynhesu yn y dyfodol, y bydd llai o fwyd ar gael ar gyfer cywion adar pryfysol y goedwig yn ôl pob tebyg, oni bai bod esblygiad yn newid pryd byddant yn bridio."
Casglwyd y dyddiadau cyntaf pan oedd coed derw'n deilio gan wyddonwyr dinesig (citizen scientists), a chafodd hyn ei gydlynu gan Ymddiriedolaeth y Coetiroedd drwy Nature's Calendar. Cafodd niferoedd y lindys eu monitro drwy gasglu baw lindys o dan goed derw, a chofnodwyd amseru dodwy titw glas, titw mawr a gwybedog brith gan gynllun cofnodi nythod hirhoedlog Ymddiriedolaeth Adareg Prydain.
Enw'r papur, sydd wedi'i gyhoeddi yn y cyfnodolynNature Ecology and Evolution, yw: "Tritrophic phenological match-mismatch in space and time."