Cynfyfyriwr yn edrych ar hanes cyfrinachol Tchaikovsky
26 Ebrill 2018
Mae un o gynfyfyrwyr yr Ysgol Cerddoriaeth, Patrick Reardon-Morgan, wedi arwain partneriaeth newydd rhwng Cerddorfa Philharmonia a Gay Star News.
Mae’r prosiect yn cynnwys cyfweliad gyda chwaraewr bas Philharmonia, Adam Wynter, yn ogystal ag erthygl sy’n archwilio hanes queer un o ffigurau diwylliannol mwyaf eiconig Rwsia, Pyotr Ilyich Tchaikovsky.
Yn y ffilm, mae’r newyddiadurwr Jamie Wareham yn siarad ag Adam am fod yn hoyw yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol, yn ogystal â’i fyfyrdodau ar waith Tchaikovsky.
Mae Patrick a Jamie wedi ysgrifennu darn ar gyfer Gay Star News hefyd yn trin a thrafod cerddoriaeth Tchaikovsky mewn perthynas â’i gyfunrhywiaeth yn Rwsia’r 19eg ganrif.
Cynhyrchwyd y ffilm fer a’r erthygl yn rhan o Digital Pride 2018, gŵyl wythnos o hyd o ffilmiau a rhaglenni nodwedd, a grëwyd er mwyn rhoi llais i bobl LGBT+ nad ydynt yn gallu mynd i ddigwyddiad Pride mewn person.
Cynhelir Digital Pride 2018 rhwng 23 a 28 Ebrill.
Mae Jamie Wareham siarad ag Adam Wynter am fod yn hoyw yn y diwydiant cerddoriaeth glasurol.
Wrth sôn am y prosiect, dywedodd Patrick “mae wedi bod yn bleser gweithio gydag un o sêr Gay Star News er mwyn taflu goleuni ar hanes hoyw hynod o ddiddorol Tchaikovsky, a chysylltu hynny â straeon cerddorion LGBT+ sy’n gweithio yn y diwydiant heddiw.
“Mae etifeddiaeth queer lewyrchus iawn gan ein celfyddyd, ac rwyf wrth fy modd yn helpu i amlygu’r etifeddiaeth hon.
Graddiodd Patrick o’r Ysgol Cerddoriaeth yn 2015 ac erbyn hyn ef yw rheolwr Ffrindiau a Rhoddion Ar-lein Cerddorfa Philharmonia.