Darn mynegi barn ynghylch addysg yn ennill gwobr papur gorau
26 Ebrill 2018
![](https://cardiff.imgix.net/__data/assets/image/0006/1164993/blackboard-outline-of-teaching.jpg?w=570&h=321&fit=crop&q=60&auto=format)
Mae Dr Peter Mackie, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, wedi ennill Gwobr Journal of Geography gan y Cyngor Cenedlaethol ar gyfer Addysg Ddaearyddol (NGCE).
Cafodd Dr Mackie a'i gyd-awdur, Aleksandra Kazmierczak, eu henwi'n enillwyr gwobr NGCE 2018 ar gyfer yr Erthygl Addysg Uwchradd Orau. Mae'r erthygl, Bridging the Divide: The Potential Role of Contemporary Geographical Research in Schools, yn archwilio i effeithiau addysg a arweinir gan ymchwil mewn ysgolion, a'r broses o'i rhoi ar waith.
Eglurodd Dr Mackie: "Roeddwn i a fy nghyd-ymchwilydd yn teimlo nad oes llawer o ystyriaeth yn cael ei rhoi i rôl ac effaith bosibl addysg a arweinir gan ymchwil mewn ysgolion, ac yn natblygiad sgiliau meddwl yn feirniadol a chyrhaeddiad addysgol disgyblion.
"Gwnaethom archwilio rhaglen a luniwyd i drosglwyddo ymchwil ddaearyddol gyfoes o brifysgolion i ysgolion a chanfod bod cael blas ar ymchwil, yn ogystal â gwella gwybodaeth disgyblion, yn eu gwneud yn fwy brwdfrydig ac yn helpu i lywio eu dewisiadau ynghylch eu haddysg. Mae dod o hyd i ffordd o greu a datblygu perthynas well rhwng prifysgolion ac ysgolion yn bwysig ar gyfer dyfodol ysgolheictod a thrafodaethau ym maes daearyddiaeth a chynllunio."
Mae NGCE yn sefydliad aelodaeth di-elw a sefydlwyd ym 1915 ac sydd wedi'i leoli yn yr Unol Daleithiau, ac sy'n gweithio i gryfhau ansawdd ac effeithiolrwydd addysg a dysgu daearyddiaeth. Cynhelir seremoni wobrwyo 2018 yn Ninas Quebec, Canada ar 6 Awst.