Angen diddymu ‘blaenoriaethu yn ôl angen’ i fynd i’r afael â digartrefedd yng Nghymru
25 Ebrill 2018
Yn ôl arbenigwr blaenllaw ym maes digartrefedd, mae angen dull mwy rhagweithiol gan awdurdodau i gefnogi’r rheini sy'n cysgu ar y stryd.
Mae ymchwil Dr Peter Mackie, o’r Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio, wedi arwain at newidiadau pwysig yn neddfwriaeth digartrefedd yng Nghymru (2014-2015). Fodd bynnag, clywodd Pwyllgor Materion Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau’r Cynulliad Cenedlaethol nad yw Dr Mackie o’r farn bod y ddeddfwriaeth wedi mynd yn ddigon pell i helpu’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Yn sgil y dystiolaeth a gyflwynwyd gan arbenigwyr – gan gynnwys Dr Mackie – mae’r Pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddileu’r cysyniad o ‘flaenoriaethu yn ôl angen’ ar gyfer tai os yw am ostwng nifer y bobl sy’n cysgu ar y stryd yng Nghymru.
Clywodd Aelodau’r Cynulliad, er y dylid ystyried bod llawer o bobl sy’n cysgu ar y stryd yn agored i niwed – er enghraifft oherwydd afiechyd corfforol neu feddyliol gwael, neu broblemau camddefnyddio sylweddau – o ganlyniad i’r meini prawf presennol ar gyfer blaenoriaethu, maent yn parhau i gael eu gadael ar y stryd.
Credai Dr Mackie, oedd yn gryf o blaid diddymu ‘blaenoriaethu yn ôl angen’ mai un o ‘brif ddiffygion’ Deddf 2014 yw’r ffaith nad yw’n gorfodi awdurdodau lleol i gynnig help oni bai pobl yn mynd ati’n rhagweithiol i chwilio am y cymorth hwnnw.
Yn yr adroddiad, sy'n cynnwys cyfanswm o 29 o argymhellion i Lywodraeth Cymru, dywedodd Dr Mackie: “Ni fydd llawer o bobl sy’n cysgu ar y stryd, na’r rheini sydd mewn perygl o fod yn y sefyllfa honno, yn mynd ati i chwilio am wasanaethau. Mae angen i awdurdodau lleol gymryd camau rhagweithiol i adnabod a chynorthwyo pobl sydd mewn perygl o gysgu ar y stryd, a’r rheini sydd eisoes yn gwneud hynny.”
Ychwanegodd: “Mae [Deddf 2014] wedi cael effaith gadarnhaol iawn ar atal pobl rhag mynd yn ddigartref a gwella eu sefyllfa yn gyffredinol... Serch hynny, nid yw wedi bod mor llwyddiannus â hynny gyda’r rheini sy’n cysgu ar y stryd, sef y grŵp y gellir dadlau sydd fwyaf agored i niwed.
Yn ôl y ffigurau, roedd o leiaf 345 o bobl yn cysgu ar y stryd yng Nghymru yn ystod y pythefnos rhwng 16 a 29 Hydref 2017. Mae hyn yn dangos cynnydd cyson yn y niferoedd, er nad yw’n hysbys beth oedd union raddfa’r cynnydd.
Mae'r Pwyllgor yn galw ar y Llywodraeth i ddiddymu ‘Blaenoriaethu yn ôl Angen’, fydd yn rhoi’r hawl i gartref i bawb sy’n ddigartref, gan gynnwys y rheini sy’n cysgu ar y stryd. Hyd nes caiff hyn ei ddiddymu, mae’r Pwyllgor wedi argymell y dylai’r rhai sy’n cysgu ar y stryd gael eu hystyried yn awtomatig fel pobl i’w blaenoriaethu.