Carreg filltir allweddol mewn ymchwil carbon-isel
24 Mehefin 2015
Rhaglen gwerth miliynau o bunnoedd yn rhoi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg garbon isel ym Mhrydain
Mae un o'r swyddogion pwysicaf ym maes newid hinsawdd yng Nghymru wedi canmol gwaith prifysgolion Cymru wrth geisio sicrhau amgylchedd cynaliadwy a charbon isel i genedlaethau'r dyfodol
Mae Peter Davies, Cadeirydd Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd a Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy, wedi cydnabod rôl allweddol y Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (LCRI) — consortiwm o grwpiau ymchwil o chwe phrifysgol ledled Cymru — wrth ddatblygu technolegau newydd sy'n mynd i'r afael â materion amgylcheddol mwyaf dybryd cymdeithas.
Mae hefyd wedi canmol rôl LCRI o ran creu swyddi, cyfleusterau labordai a buddsoddi mewn diwydiant, gan dynnu sylw at eu heffaith gadarnhaol ar economi Cymru.
Cyflwynodd ei sylwadau mewn adroddiad newydd, a lansiwyd heddiw, 24 Mehefin, yng Ngwesty Dewi Sant yng Nghaerdydd. Mae'r adroddiad yn rhoi manylion prif lwyddiannau'r rhaglen ymchwil ers ei sefydlu yn 2008.
Ers ei lansio, mae LCRI wedi denu, a helpu i hyfforddi, dros 180 o ymchwilwyr allweddol ym maes ynni carbon isel, yn ogystal â sicrhau dros £80 miliwn o arian ymchwil.
Drwy gydweithio'n agos â'r diwydiant a'r llywodraeth, mae LCRI wedi codi proffil mentrau carbon isel yng Nghymru, gan weithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol i ddangos bod Cymru ar flaen y gad ym maes technolegau carbon isel.
Mae'r uchafbwyntiau'n cynnwys Canolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy (GTRC) — cyfleuster efelychu arbrofol o'r radd flaenaf. Mae'n cynnwys gorsaf gymysgu newydd sy'n gallu cymysgu gwahanol gyfansoddiadau tanwydd yn gywir, gan gynnwys crynodiadau amrywiol o hydrogen.
Credir bydd y ganolfan hon yn helpu rheoleiddwyr nwy naturiol y DU a'r UE i safoni cyfansoddiad ac ansawdd nwy. Bydd hefyd o gymorth wrth ddeall sut gall hydrogen, a gynhyrchir o ffynonellau adnewyddadwy, gael ei chwistrellu i mewn i'r grid nwy naturiol a'i ddefnyddio gan gynyrchyddion pŵer.
Mae prosiect Amgylchedd Adeiledig Carbon Isel (LCBE), a gynhelir yn Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi datblygu technolegau newydd i gynhyrchu ynni o ffynonellau adnewyddadwy sy'n rhan o adeiladau newydd yn ogystal â'u gosod mewn adeiladau eraill. Mae prosiect LCBE wedi bod yn edrych ar sut gellir gosod y technolegau mewn pob math o adeiladau, fel tai, ffatrïoedd, siopau ac ysgolion.
Yn ei ragair i adroddiad LCRI, ysgrifennodd Peter Davies: "Yn ôl pob golwg, mae'r cam nesaf yn nhaith LCRI yn mynd i fod mor gyffrous â'r saith mlynedd blaenorol; mae cynlluniau i ehangu'r rhwydwaith a pharhau i wneud cyfraniad sylweddol at ddyfodol carbon isel. Bydd prosiectau cydweithredol yn ogystal â'r wybodaeth a'r profiad a enillwyd hyd yma, yn cyfrannu at bob un o saith nod llesiant Llywodraeth Cymru.
"Mae gan LCRI rôl bwysig mewn gwlad sy'n rhoi pwyslais ar ddatblygu cynaliadwy ac sydd â thargedau uchelgeisiol o ran y newid yn yr hinsawdd. Mae'n braf iawn gweld y gwaith gwych y mae LCRI wedi'i wneud hyd yma. Edrychaf ymlaen at gam nesaf LCRI, ac rydw i'n gwybod y bydd ganddo rôl allweddol o ran cyflawni deilliannau a ddiffiniwyd yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Bil Amgylcheddol i wneud Cymru'n lle gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Meddai'r Athro Phil Jones, Cadeirydd Gwyddoniaeth Pensaernïol Prifysgol Caerdydd a Chadeirydd LCRI: "Dros y saith mlynedd diwethaf, mae LCRI wedi llwyddo i ddatblygu adnoddau ymchwil yng Nghymru drwy gysylltu ymchwil academaidd â diwydiant a'r llywodraeth i fynd i'r afael â'r agenda carbon isel. Nod LCRI erbyn hyn yw adeiladu ar lwyddiant a chynnig rhwydwaith ymchwil i Gymru fydd yn helpu i gyflwyno polisïau carbon isel yng Nghymru."
Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop oedd un o'r prif ffynonellau arian i bartneriaid LCRI drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO). Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW), Cynghorau Ymchwil y DU a byd diwydiant hefyd wedi'u hariannu'n rhannol.