Mannau Cynaliadwy yn croesawu arbenigwyr rhyngwladol ym maes cynaliadwyedd
24 Ebrill 2018
Mae Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd wedi croesawu ei Fwrdd Cynghori Rhyngwladol i Gaerdydd.
Daeth Bwrdd y Sefydliad, sy’n cynnwys arbenigwyr amlwg ar gynaliadwyedd o bedwar ban byd, ynghyd mewn cyfarfod â chydweithwyr yn y Sefydliad, gan achub ar y cyfle i drafod eu gwaith ymchwil a'u partneriaethau â nhw.
Hefyd, cynhaliodd y Sefydliad ei brif ddarlith flynyddol, lle trafododd tri aelod o’r Bwrdd – yr Athro Alison Blay-Palmer, yr Athro Tony Capon a’r Athro Katarina Eckerberg – yr heriau o greu mannau rhyngddisgyblaethol o safbwynt eu hymchwil arbenigol eu hunain.
Meddai’r Athro Terry Marsden, Cyfarwyddwr Sefydliad Mannau Cynaliadwy: "Roeddem ni’n falch iawn o groesawu aelodau ein Bwrdd Cynghori Rhyngwladol i'r Sefydliad yr wythnos hon. Dros ddau ddiwrnod dwys o waith roeddent yn gallu deall yr amrywiaeth o ymchwil sy’n cael ei gynnal yn y Sefydliad a chynnig cyngor arbenigol ar sut y gallwn ddatblygu ein gwaith.
"Roeddem yn falch iawn bod grŵp mor fawreddog o arbenigwyr wedi’u synnu gyda'r amrywiaeth o ymchwil sy’n cael ei gynnal, a’r effaith ryngwladol y mae’r sefydliad yn ei chael. Byddwn yn bwrw ymlaen â llawer o syniadau ac yn trafod eu hargymhellion yn y dyfodol agos."
Dysgu rhagor am aelodau Bwrdd y Sefydliad.