Mae prifysgolion yn y DU yn mynd drwy gyfnod anodd ar hyn o bryd ac wedi eu beirniadu’n hallt gan nifer o sylwebwyr y cyfryngau. Mae agendâu amrywiol yn cael eu gwthio. Mae addysg uwch naill ai’n cael ei rhedeg fel busnes, neu’n peidio talu digon o sylw i’r cwsmer; telir cyflogau rhy uchel i staff uwch tra bod myfyrwyr yn wynebu dyled gydol oes: a’r hyn sy’n peri mwyaf o bryder, caiff gwybodaeth arbenigol ei dibrisio ac addysg ei chwestiynu.
Tynnwyd fy sylw o’r safbwyntiau hyn gan y gwahoddiad i ymuno â myfyrwyr a staff yr isadran Addysg Barhaus ar gyfer seremoni wobrwyo, a chyfle i fyfyrio ar rôl prifysgolion mewn bywyd dinesig.
Nid yn unig at astudiaeth uwch y cyfeirir y term “addysg uwch”: mae hefyd yn gallu trawsnewid bywydau. Mae gwaith John Henry Newman, “The Idea of a University” (1852), yn cyflwyno delfryd sy’n berthnasol heddiw: “Yn y lle hwn, caiff ymchwil ei datblygu … caiff gwallau eu dadlennu, gan wrthdrawiad meddwl â meddwl, gwybodaeth â gwybodaeth.”
Mae’r cysyniad cyfannol a rhyddfrydig hwn o addysgu y tu hwnt i gyfyngiadau arbenigol (ac yn rhydd rhag dyfarniadau crefyddol) yn sail i sylfaen prifysgolion dinesig yng Nghymru a Lloegr.
Mae ein prifysgol yn enghraifft wych o’r uchelgais hwn. Mae ein Siarter Brenhinol o 1884 yn sôn am y Brifysgol yn cynnig “cyfarwyddyd ym mhob maes o addysg gyfannol a rhyddfrydig … yn darparu ar gyfer pobl nad ydynt wedi’u derbyn yn fyfyrwyr.” Heddiw, disgrifir ein cenhadaeth yn gryno ond heb fod yn llai grymus: rydym yn bodoli “i greu a rhannu gwybodaeth ac i addysgu er budd pawb.”
Y ddarpariaeth hon o addysg er budd pawb a gafodd ei dathlu yn ddiweddar wrth i mi gyflwyno tystysgrifau a gwobrau i fyfyrwyr Addysg Barhaus.
Mae’r adran wedi datblygu yn helaeth. Y dyddiau hyn, mae Addysg Uwch yn darparu llawer o gyrsiau rhan-amser i’r cyhoedd, ehangu mynediad a gweithgareddau datblygiad proffesiynol, modiwlau unigol i fyfyrwyr israddedig a’r Llwybrau rhan-amser i amser llawn a gyflwynwyd yn ddiweddar.
Mae Addysg Barhaus yn dod â phobl o bob cefndir o fywyd i’n cymuned academaidd – calon ein cenhadaeth ddinesig. Mae’n dystiolaeth gadarn o’n gwreiddiau yn ein dinas, gan ddod ag ysgolheictod un o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r byd i’r gymuned a’i sefydlodd. Yn fwyaf pwysig, mae’n rhoi grym yn nwylo’r bobl, ac yn chwalu’r portreadau cyfryngol o ‘dyrau ifori’, sy’n cadw draw o fywyd dinesig.
- Yr Athro Gary F Baxter, Dirprwy Is-Ganghellor Coleg y Gwyddorau Biofeddygol yn cyflwyn’or dyfarniadau I’r myfyrwyr