Un o 600 o wyddonwyr ifanc i ymuno â 43 o Enillwyr Gwobrau Nobel
18 Ebrill 2018
Mae Dr Nicholas Clifton ymhlith 600 o wyddonwyr ifanc ledled y byd i dderbyn gwahoddiad i Gyfarfod Rhif 68 Enillwyr Gwobrau Nobel Lindau, gan ymuno â 43 o Enillwyr Gwobrau Nobel rhwng 24 a 29 Mehefin 2018.
Wedi’i ariannu gan The Waterloo Foundation, mae Dr Clifton yn Gymrawd Ymchwil Gyrfa Gynnar yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd (NMHRI).
Gyda chefndir mewn Niwrowyddoniaeth (MSci, Prifysgol Nottingham) a Niwrowyddoniaeth Integreiddiol (PhD, Prifysgol Caerdydd), mae ei ymchwil yn ceisio nodi llwybrau biolegol sy'n cyfrannu at anhwylderau seiciatrig megis sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol.
Gan ddefnyddio technegau biowybodeg i ddadansoddi data genetig ar raddfa fawr yng nghyd-destun swyddogaeth protein, mae gwaith Dr Clifton wedi helpu i gysylltu anhwylderau seiciatrig â grwpiau arwahanol o enynnau sy'n gyfrifol am ddatblygiad yr ymennydd, dysgu a’r cof.
Mae Dr Clifton yn edrych ymlaen at gynrychioli ei waith a’r NMHRI "Dyma gyfle cyffrous iawn i gyfarfod a dysgu gan Enillwyr Gwobrau Nobel ac ymchwilwyr gyrfa gynnar o bedwar ban byd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gymryd rhan yn y Cyfarfod a chyfrannu popeth y gallaf. Rwy’n barod i gael fy ysbrydoli."
Aeth yr Athro Jeremy Hall, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl ati i longyfarch Dr Clifton "Mae Nick yn wyddonydd ifanc rhagorol sydd wedi dangos annibyniaeth a mentergarwch cynnar, yn arbennig wrth gyfuno gwaith labordy â dulliau i ddeall yr ymennydd a’r hyn sy’n achosi problemau iechyd meddwl."
Mae’r cyfarfod eleni yn trafod ffisioleg a meddygaeth a bydd yn canolbwyntio ar bynciau allweddol rôl gwyddoniaeth mewn ‘cyfnod ôl-ffeithiol’, therapi genynnau ac arferion cyhoeddi gwyddonol. Bydd hefyd yn gosod dwy record, gyda mwy o Enillwyr Gwobrau Nobel nag erioed o'r blaen mewn cyfarfod meddygaeth yn cymryd rhan, a chasgliad amrywiol o gyfranogwyr yn tarddu o 84 o wahanol wledydd.
"Bydd yr haf hwn unwaith eto yn croesawu’r genhedlaeth nesaf o’r ymchwilwyr gorau. Mae’n rhyfeddol ein bod yn dwyn ynghyd mwy nag 80 o genhedloedd yn Lindau. Mae'n arbennig o braf gweld mai menywod yw 50 y cant o'r gwyddonwyr ifanc", meddai’r Iarlles Bettina Bernadotte, Llywydd Cyngor Cyfarfodydd Enillwyr Gwobrau Nobel Lindau.
Aeth mwy na 130 o bartneriaid academaidd ledled y byd ati i enwebu ymgeiswyr i gymryd rhan yn dilyn prosesau ymgeisio mewnol. Bydd y rhaglen chwe diwrnod yn cynnwys dosbarthiadau meistr lle bydd y gwyddonwyr ifanc yn cyflwyno eu hymchwil i’r Enillwyr Gwobrau Nobel a’u cydweithwyr.
I ddarganfod rhagor am y cyfarfod hwn, ewch i http://www.lindau-nobel.org/