Dathlu Effaith
18 Ebrill 2018
Mae ymchwilydd sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb rhwng y rhywiau a hyrwyddo addysg ar berthnasoedd iach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobr uchel ei bri.
Enwebwyd yr Athro Emma Renold o Ysgol Gwyddorau Cymdeithasol y Brifysgol yng nghategori Effaith Neilltuol ar Gymdeithas ar gyfer Gwobr Dathlu Effaith 2018 y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC).
Mae’r wobr bellach yn ei chweched flwyddyn, ac yn gyfle i gydnabod a gwobrwyo academyddion y mae eu gwaith wedi gwneud gwahaniaeth go iawn i gymdeithas neu'r economi drwy ymchwil ragorol, partneriaethau cydweithredol, ymgysylltu neu gyfnewid gwybodaeth.
Ar hyd ei gyrfa, mae’r Athro Renold wedi cynnal ymchwil helaeth ym meysydd rhywedd, rhywioldeb a phlentyndod a ieuenctid, gan ddefnyddio dulliau creadigol i wrando ar bobl ifanc a’u cynnwys mewn newid ar faterion sensitif ac anodd.
Yn 2016, lansiodd AGENDA: Canllaw i Bobl Ifanc ar wneud i berthnasoedd cadarnhaol gyfrif. Pecyn offer gweithredol yw AGENDA, ac fe’i lluniwyd ar y cyd â mwy na 50 o bobl ifanc, gyda’r nod o helpu pobl ifanc i gynyddu ymwybyddiaeth o drais rhyw a rhywedd mewn ysgolion, ar-lein ac mewn cymunedau.
Ers ei lansio, mae AGENDA wedi cael ei gymeradwyo a'i wreiddio’n rhan o arfer sefydliadau allweddol a ariannir gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu Addysg Rhyw a Pherthnasoedd. Yn ystod ei 12 mis cyntaf, cyrhaeddodd AGENDA mwy na 3,000 o bobl gan gynnwys pobl ifanc, ymarferwyr, gweithwyr ieuenctid, swyddogion cyswllt yr heddlu, athrawon ac academyddion.
Ehangwyd y fenter ym mis Tachwedd 2017 ac fe’i lansiwyd yn yr Unol Daleithiau fel rhan o Ddiwrnod Rhyngwladol y Ferch y Cenhedloedd Unedig 2017 -11 diwrnod o weithredu.
Heddiw, mae ymchwil ac arbenigedd yr Athro Renold yn parhau i lunio gweledigaeth Cymru ar gyfer Addysg Rhyw a Pherthnasoedd.
Yr Athro Renold oedd Cadeirydd panel arbenigol Ysgrifennydd Cabinet Cymru ar gyfer Addysg, ‘Dyfodol y cwricwlwm Addysg Rhyw a Pherthnasoedd yng Nghymru'. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd y panel adroddiad yn cyflwyno argymhellion ar gyfer ailwampio addysg rhyw a pherthnasoedd yng Nghymru, oedd yn nodi bylchau sylweddol rhwng profiadau bywyd plant a phobl ifanc a’r Addysg Rhyw a Pherthnasoedd maen nhw’n ei derbyn yn yr ysgol.
Bu’r Athro Renold hefyd yn chwarae rhan weithredol yn y gwaith o greu ymgyrch #THISISME Llywodraeth Cymru sy'n ceisio herio stereoteipiau rhywedd niweidiol er mwyn rhoi sylw i achos a chanlyniadau trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Dywedodd yr Athro Renold: "Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon. Mae'n golygu cymaint bod arferion ffeministaidd cydweithredol yn cael eu cydnabod a'u dathlu.
"Canlyniad partneriaeth helaeth hirdymor yw creu adnodd AGENDA a’i effaith, a hynny gydag ysgolion, grwpiau ieuenctid, asiantaethau trydydd sector, Llywodraeth Cymru ac academyddion ar draws y byd.
"Diben y gwaith hwn yw tiwnio i mewn i sut deimlad yw hi i blant a phobl ifanc gael hyd i’w ffordd mewn byd o normau a thrais rhyw a rhywiol, a rhoi iddynt ffyrdd o gyfleu’r materion sydd o bwys iddynt."
Cyhoeddir enillwyr y wobr mewn seremoni wobrwyo yn y Gymdeithas Frenhinol ar 20 Mehefin.