Pam mae angen mwy o dimau busnes llwyddiannus ar Gymru
23 Mehefin 2015
Mae ar Gymru angen mwy o dimau busnes llwyddiannus i sbarduno twf ledled y wlad, yn ôl arbenigwr arloesedd blaenllaw o Brifysgol Caerdydd
Dywedodd yr Athro Kevin Morgan, Deon Ymgysylltu, wrth arweinwyr busnes y ddinas y bydd timau clyfar bob amser yn rhagori ar unigolion llwyddiannus, er bod entrepreneuriaid enwog yn bachu'r penawdau.
Mae'r Athro Morgan yn credu bod creu'r amodau cywir i alluogi arloesedd i ffynnu yn bwysicach na dathlu cyflawniadau 'sêr' busnes unigol fel Bill Gates, Steve Jobs neu James Dyson.
Wrth siarad yn CoInnovate 2015 - digwyddiad blaenllaw yng Nghaerdydd i ddwyn ynghyd technolegau a syniadau busnes o'r radd flaenaf - dywedodd yr Athro Morgan wrth y rheini a oedd yno: "Er bod gronyn o wirionedd yn yr achosion hyn, maent yn aml ymhell ohoni.
"Mae arloesedd bellach yn cael ei gydnabod fel proses gyfunol lle mae gwaith tîm clyfar yn dod â gweithwyr a rheolwyr cwmni, cadwyni cyflenwi corfforaethol a rhwydweithiau rhyng-sefydliadol at ei gilydd.
"Mae angen cydweithio oherwydd ni all un sefydliad fyth obeithio amsugno'r holl wybodaeth sydd ei hangen i greu technolegau, cynnyrch neu wasanaethau newydd.
"Mae angen ymddiriedaeth i feithrin cydweithrediad, sef ased anniriaethol a gwerthfawr, ond sy'n rhad ac am ddim. Rhaid ennill ymddiriedaeth drwy gyflawni ymrwymiadau i bartneriaid, ac mae hynny'n cymryd amser, amynedd a dealltwriaeth. Yn y tymor hir, mae perthynas llawn ymddiriedaeth yn arbed amser ac arian, ac mae'n galluogi dysgu cyflym, oherwydd mae partneriaid ymddiriedaeth uchel yn fwy parod i rannu gwybodaeth a dealltwriaeth."
Dywedodd yr Athro Morgan bod cydweithio yn ganolog i Arbenigo Craff, sef polisi arloesedd rhanbarthol newydd yr UE. Mae'n ofynnol i bob rhanbarth sy'n gobeithio defnyddio Cronfeydd Strwythurol hyd at 2020 gael strategaeth Arbenigo Craff, ac nid yw Cymru'n eithriad.
"Mae Arbenigo Craff yn galw ar fusnesau a phrifysgolion i fod ar yr un lefel â llywodraethau rhanbarthol wrth gynllunio a darparu prosiectau arloesedd. Bydd rhaid i rôl llywodraethau rhanbarthol newid o fod yn rheolwr prosiectau arloesedd rhanbarthol i fod yn guradur, drwy frocera partneriaethau newydd a ffrydiau ariannu, er enghraifft."
Sut bydd Arbenigo Craff yn gweithio yng Nghymru? Mae'r Athro Morgan yn credu y bydd prosiectau craidd newydd yn tyfu mewn cyfleusterau arloesedd newydd sy'n codi mewn prifysgolion gan gynnwys Bangor, Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd, sy'n datblygu campws arloesedd gwerth £350m.
"Bydd y ganolfan yn denu talent ryngwladol, yn ogystal â buddsoddiadau ymchwil a datblygu, fel Horizon 2020," meddai'r Athro Morgan. "Byddant yn cysylltu meysydd llywodraeth, busnes a chymdeithas sifil â'i gilydd. Gallai creadigrwydd cydweithredol fod yn arwyddair ar eu cyfer."