Cyfraniad Prifysgol Caerdydd at y Strategaeth Trais Difrifol
13 Ebrill 2018
Mae model arloesol Prifysgol Caerdydd ar gyfer mynd i'r afael â thrais wedi’i mabwysiadu gan y Llywodraeth yn ei Strategaeth gyntaf yn ymwneud â Thrais Difrifol.
Mae’r fenter Rhannu Gwybodaeth i Fynd i’r Afael â Thrais (ISTV) – rhaglen atal trais a ddatblygwyd gan yr Athro Jonathan Shepherd – yn defnyddio data o Unedau Damweiniau ac Achosion Brys i adnabod mannau hynod dreisgar, gan helpu asiantaethau gorfodi'r gyfraith a llywodraethau dinasoedd i leihau trais a chost triniaeth frys mewn ysbytai yn sgîl hynny.
Yn ôl strategaeth newydd y Llywodraeth, sy’n nodi newid sylweddol yn ei hymateb i droseddau cyllyll a drylliau: “Mae tystiolaeth wedi dangos bod cyfran sylweddol o ymosodiadau yn cael eu trin mewn adrannau achosion brys ysbytai yn anhysbys i'r heddlu. Felly, mae’r Swyddfa Gartref, yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a GIG Lloegr wedi cydweithio i gefnogi menter Rhannu Gwybodaeth i Fynd i’r Afael â Thrais (ISTV) yn Lloegr.
“Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i gefnogi camau gweithredu ar ran yr heddlu ac eraill er mwyn atal a lleihau nifer y digwyddiadau treisgar. Mae hyn yn cynnwys addasu llwybrau patrolau plismyn, symud heddlu o’r maestrefi i ganol trefi neu ddinasoedd ar adegau penodol o'r dydd a’r wythnos, targedu safleoedd trwyddedig lle ceir problemau, llywio’r defnydd o deledu cylch cyfyng, cau rhai strydoedd rhag traffig a chyflwyno gwydrau yfed plastig.”
Wrth sôn am y strategaeth newydd, dywedodd yr Athro Shepherd: “Mae’n wych gweld bod gan y model rhannu gwybodaeth a ddatblygwyd ym Mhrifysgol Caerdydd rôl allweddol yn y Strategaeth Trais Difrifol. Mae gwerthusiadau annibynnol wedi dangos bod dros 40 y cant yn llai o drais yn y dinasoedd mewn dinasoedd lle mae ‘Model Caerdydd’ wedi’i roi ar waith. Mae’n ffordd effeithiol o wneud yn siŵr bod dulliau stopio a chwilio, a chario cyllyll, yn cael eu targedu'n briodol.”
Cafodd ‘Model Caerdydd’ ei roi ar brawf yng Nghaerdydd yn gyntaf rhwng 2002 a 2007 ac mae wedi'i gyflwyno'n raddol ledled y byd – mewn gwledydd fel yr Iseldiroedd, yr Unol Daleithiau, Awstralia a De Affrica.
Crëwyd Model Caerdydd gan y llawfeddyg, yr Athro Shepherd ychydig 20 mlynedd yn ôl, pan ganfu nad oedd yr heddlu yn ymwybodol o'r rhan fwyaf o'r digwyddiadau treisgar a oedd yn arwain at driniaeth frys mewn ysbyty. Yn aml, byddai'n rhaid i'r bobl a anafwyd yn yr achosion hyn gael llawdriniaeth i ailadeiladu'r wyneb yn ei theatr llawdriniaethau ef.
Yn 2008, enillodd ‘Model Caerdydd’ gydnabyddiaeth ryngwladol pan ddyfarnwyd Gwobr Stockholm ar gyfer Troseddeg i'r Athro Shepherd. Mae Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn defnyddio'r model fel enghraifft dda o atal trais ledled y byd.