THELMAs 2015
22 Mehefin 2015
Uwch-dîm rheoli'n cael ei 'ganmol i'r cymylau' yng Ngwobrau Times Higher Education
Mae uwch-dîm rheoli'r Brifysgol wedi'i 'ganmol i'r cymylau' am ei arweinyddiaeth a'i reolaeth.
Cafodd Bwrdd Gweithredol y Brifysgol (BGB) ei gydnabod yng nghategori Arweinyddiaeth a Rheolaeth Tîm Eithriadol yng ngwobrau blynyddol Arweinyddiaeth a Rheolaeth Times Higher Education (THELMAs) neithiwr (18 Mehefin 2015).
Mae'r categori'n cydnabod y brifysgol yn y DU sy'n gallu dangos y sgiliau arweinyddiaeth a rheolaeth gorau ac ehangaf.
Prifysgol Newcastle enillodd y brif wobr.
Dywedodd yr Athro Colin Riordan, Is-ganghellor y Brifysgol: "Rwy'n falch iawn bod gwaith uwch-dîm rheoli'r Brifysgol wedi'i gydnabod gan y gymuned addysg uwch ehangach.
"Pan gyrhaeddais Brifysgol Caerdydd i ddechrau, dechreuwyd rhaglen gennym o fuddsoddiad a newid. Daeth Y Ffordd Ymlaen yn gynllun ar gyfer ein huchelgais.
"Yr hyn a oedd yn allweddol wrth gyflawni Y Ffordd Ymlaen oedd gwneud yn siŵr bod gennym y tîm cywir i dywys ein staff, ein myfyrwyr a'n cymunedau ehangach ar hyd y daith.
"Rwyf bob amser wedi credu bod gennym yr uwch-dîm rheoli priodol, a dyna pam ei bod mor foddhaol i ni gael ein cydnabod yn y modd hwn."
Nid y Bwrdd Gweithredol oedd unig dîm y Brifysgol i gael ei gydnabod yn y seremoni wobrwyo neithiwr.
Roedd Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Brifysgol wedi chwarae rôl allweddol wrth sicrhau'r wobr Tîm Llyfrgelloedd Rhagorol ar gyfer Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru (WHELF).
Mae WHELF yn cynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, pob un o'r 10 sefydliad addysg uwch yng Nghymru, a Llyfrgelloedd GIG Cymru.
Dan arweiniad Prifysgol Caerdydd, a oedd yn cadeirio'r grwpiau llywio a'r gweithgorau, cafodd ei ganmol am fod yn broses wirioneddol gydweithredol, gyda'r holl lyfrgelloedd partner yn chwarae rhan lawn a gweithredol.
Mae'n bartneriaeth arloesol er mwyn darparu system rheoli llyfrgelloedd ar gyfer y wlad gyfan.
Ychwanegodd yr Athro Colin Riordan: "Llyfrgelloedd yw enaid unrhyw Brifysgol, ac nid ydym ni'n ddim gwahanol.
"Rhaid rhoi canmoliaeth arbennig i Janet Peters a'i thîm am eu hymdrechion wrth ddatblygu, gyrru a darparu'r gwasanaeth llyfrgelloedd cyntaf gan Brifysgol yng Nghymru ar gyfer y wlad gyfan.
"O academyddion blaenllaw i'n timau gwasanaethau proffesiynol ymroddedig, rwy'n hynod o falch o ddweud bod gennym bobl sy'n wirioneddol eithriadol yn gweithio'n ddiflino i gyflawni ein dyheadau strategol."
Yn olaf, cyrhaeddodd Coleg y Celfyddydau, y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol ym Mhrifysgol Caerdydd y wobr.