Cloddio Caerdydd
22 Mehefin 2015
Bydd y gymuned leol yn cloddio'n ddyfnach i 6,000 blwyddyn o hanes Caerdydd
Bydd gwaith cloddio mawr ar fryngaer cynhanesyddol yng Nghymru yn dechrau heddiw (22 Mehefin), gyda thrigolion lleol wrth ganol yr ymdrechion i ddarganfod tarddiad cynhanesyddol Caerdydd.
Dros y pedair wythnos nesaf, bydd oddeutu 200 aelod o gymuned Caerau a Threlái yn cydweithio ag archaeolegwyr ym Mhrifysgol Caerdydd i gloddio Bryngaer Caerau, un o safleoedd treftadaeth mwyaf arwyddocaol Cymru, ond sy'n un o'r rhai lleiaf adnabyddus.
Mae'r gwaith cloddio eleni yn dilyn gwaith cloddio
hynod lwyddiannus yn 2013 a 2014, lle gwnaed darganfyddiadau rhyfeddol a
ddangosodd bod y safle wedi'i feddiannu o'r Oes Efydd hyd at ddiwedd yr oes
Rufeinig a thu hwnt.
Ymhlith y darganfyddiadau roedd pum tŷ crwn mawr o Oes yr Haearn, ffordd,
casgliadau helaeth o grochenwaith Rhufeinig ac o Oes yr Haearn, a mwclis gwydr
wedi'i addurno o Oes yr Haearn.
Cyn sefydlu prosiect treftadaeth CAER – sef cydweithrediad rhwng Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol a'r sefydliad cymunedol Action Caerau and Ely (ACE) - roedd archaeolegwyr wedi anwybyddu'r fryngaer i raddau helaeth, gan olygu mai ychydig iawn o wybodaeth oedd am ei harwyddocâd. Roedd llawer o'i rhagfuriau godidog yn cuddio y tu ôl i goed.
Tan 2014, nid oedd archaeolegwyr yn ymwybodol bod y safle wedi cael ei feddiannu mor bell yn ôl ag Oes y Cerrig - miloedd o flynyddoedd cyn adeiladu'r fryngaer. Ond roedd darganfyddiadau archaeolegol diddorol yn ystod digwyddiad cloddio yr haf diwethaf wedi datgelu cyfoeth o ddarganfyddiadau Neolithig, gan gynnwys nifer o offer fflint ac arfau yn dyddio i tua 3,600 CC.
Un rhan o'r prosiect yw'r gwaith cloddio hwn. Ei fwriad yw rhoi i'r gymuned well dealltwriaeth o'u treftadaeth a gorffennol hynod ddiddorol yr ardal, a rhoi cyfle iddynt ennill sgiliau newydd, meithrin hyder a chydweithio yn y gymuned ar yr un pryd.
Dros y tair blynedd diwethaf, mae dros 2,000 o aelodau cymunedol - gan gynnwys disgyblion ysgol, pobl ifanc sy'n cael eu hallgáu, y rheini sydd wedi bod yn ddi-waith ers amser a phobl sydd wedi ymddeol - wedi cydweithio ag ymchwilwyr o'r Brifysgol yn rhan o'r prosiect, i ddatgelu manylion hanfodol am eu cyndeidiau cynhanesyddol.
Mae gan aelodau o'r gymuned rôl amlwg ar bob cam yn y broses, gan gynnwys cloddio, tirfesur geoffisegol, dadansoddi ar ôl cloddio, yn ogystal â chefnogi mentrau ymchwil hanesyddol ac artistig creadigol.
Dywedodd cyd-gyfarwyddwr y prosiect, Dr Dave Wyatt, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd: "Gwnaed darganfyddiadau ysgytwol y llynedd, a wnaeth wthio tarddiad Caerdydd ymhell yn ôl mewn amser, ond credwn mai dim ond crafu wyneb y safle anhygoel hwn yr ydym o hyd, felly pwy a ŵyr beth fydd yn cael ei ddatgelu eleni.
"Amcan y prosiect bob amser yw defnyddio archaeoleg i helpu pobl Caerau a Threlái i gysylltu â'u treftadaeth, gan ei gwneud yn berthnasol i fywydau heddiw, yn ogystal ag addysgu a herio stereoteipiau sydd ynghlwm wrth y rhan hon o Gaerdydd.
"Ond mae ei arwyddocâd yn bellgyrhaeddol mewn ffyrdd eraill, hefyd. O ran archwilio archaeolegol a darganfod, mae'r pedair blynedd diwethaf wedi rhagori ar ein disgwyliadau, gyda rhai darganfyddiadau o arwyddocâd rhyngwladol yn ein helpu i roi miloedd o flynyddoedd o hanes ynghyd.
"Gan fod y safle yn bum hectar mewn maint, rydym yn gobeithio bod y gorau eto i ddod, a gallwch deimlo'r cyffro ymhlith y tîm ymchwil wrth edrych ymlaen. Eleni, ochr yn ochr â'r gymuned leol, rydym yn gobeithio bod ar flaen y gad o ran darganfod rhagor o drysorau archaeolegol cynhanesyddol."
Dywedodd Olly Davies, o Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd Prifysgol Caerdydd, a chyd-gyfarwyddwr arall y prosiect: "Yn ystod digwyddiad cloddio y llynedd, daeth dros 2,000 o bobl leol i ymweld â'r safleoedd cloddio, ac roedd cannoedd yn cymryd rhan yn y gwaith archaeolegol ei hun. Ein her eleni yw denu dwywaith cymaint o ymwelwyr, a chael pobl de Cymru i werthfawrogi'r safle anhygoel hwn a'r cymunedau rhyfeddol sy'n byw yn ei gysgod.
"Mae gan brosiect treftadaeth CAER bolisi mynediad agored a chynhwysol tuag at waith cloddio archaeolegol, ac mae'n croesawu cyfraniad pawb. Mae croeso cynnes bob amser i bobl ddod i ymweld â ni, neu i dorchi eu llewys ar gyfer y pedwerydd tymor pwysig hwn. Cewch fwy o wybodaeth am sut i gymryd rhan ar wefan prosiect treftadaeth CAER, neu gallwch gysylltu â ni ar Facebook neu Twitter."