Silver medal for medical student at Commonwealth Games
6 Ebrill 2018
Mae Lewis Oliva, sy’n fyfyriwr meddygol ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi ennill y fedal arian i Dîm Cymru yng nghystadleuaeth ceirin y dynion yng Ngemau'r Gymanwlad yn Awstralia.
Perfformiodd Lewis yn wych yn y rownd derfynol ddydd Gwener ar ôl llwyddo yn rasys rhagbrofol un o’r cystadlaethau beicio mwyaf cyffrous ac anodd eu proffwydo.
Roedd llwyddiant Lewis yn golygu bod athletwyr Tîm Cymru wedi ennill tair medal yng Ngemau'r Arfordir Aur hyd yma.
Mae Lewis yn rhan o Raglen Perfformiad Uchel chwaraeon y Brifysgol, a dywedodd wrth adran Chwaraeon y BBC: “Dwi’n methu’r credu peth! Mae popeth wedi arwain at hyn dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Gadawodd Lewis, sy’n 25 oed, raglen British Cycling ym yn 2016 i ddilyn rhaglen Meddygaeth i Israddedigion y Brifysgol ac ymuno â Beicio Cymru.
Dywedodd y cafodd ei ysbrydoli i fod yn feddyg gan yr hyn a welodd ar y wardiau yn ystod profiad gwaith.
"Efallai eich bod yn meddwl bod gwneud ymarferion cychwyn o sefyll ar fore Llun yn bwysig - ond dyw e ddim” meddai mewn cyfweliad cyn y Gemau.
“Mae cael eich tywys o amgylch ward oncoleg y plant yn y Mynydd Bychan [Ysbyty Athrofaol Cymru] yn rhoi persbectif go iawn i chi. Mae hynny'n rhywbeth gwirioneddol ddifrifol."
Meddai Stuart Vanstone, Pennaeth Chwaraeon ym Mhrifysgol Caerdydd: "Mae Lewis yn fyfyriwr sy’n esiampl i bawb, yn cydbwyso ei waith academaidd a chwaraeon ar y lefel uchaf. Mae ennill medal arian yn gamp aruthrol ac yn dangos pa mor galed mae wedi gweithio dros y blynyddoedd. Da iawn Lewis!
Mae Lewis, sy’n dod o Sir Fynwy, wedi llwyddo i ymdopi â gwneud yr holl ymarferion lefel uchel ochr yn ochr â’i astudiaethau, ac mae ei olygon nawr ar y gystadleuaeth sbrint i feicwyr yn y Gemau ddydd Sadwrn, 7 Ebrill.