Darlith flynyddol yn dod ag arbenigwyr ar gynaladwyedd i Gaerdydd
6 Ebrill 2018
Bydd grŵp blaenllaw o dri arbenigwr rhyngwladol ym maes cynaladwyedd, yr Athro Tony Capon, yr Athro Katarina Eckerberg, a'r Athro Alison Blay-Palmer – yn cyflwyno darlith flynyddol y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy: Heriau creu mannau cynaliadwy rhyngddisgyblaethol.
Bydd y siaradwyr yn cyflwyno digwyddiad panel cyhoeddus yn edrych ar heriau creu mannau cynaliadwy rhyngddisgyblaethol o safbwynt eu hymchwil eu hunain. Bydd y drafodaeth panel gyda chymedrolwr yn cynnwys cwestiynau gan y gynulleidfa.
Tony Capon yw Athro cyntaf Iechyd y Blaned ym Mhrifysgol Sydney. Mae'n feddyg iechyd cyhoeddus ac yn awdurdod ar iechyd amgylcheddol a hyrwyddo iechyd, gyda'i ymchwil yn canolbwyntio ar drefoli, datblygu cynaliadwy a iechyd dynol.
Cyn hyn, bu Tony'n cyfarwyddo'r athrofa iechyd byd-eang ym Mhrifysgol y Cenhedloedd Unedig (UNU-IIGH) gyda phenodiadau Athrawol ym Mhrifysgol Genedlaethol Awstralia a Phrifysgol Canberra.
Mae Katarina Eckerberg yn Athro Gwyddor Wleidyddol ym Mhrifysgol Umeå. Mae ei harbenigedd yn cwmpasu polisi a gwleidyddiaeth amgylcheddol ac adnoddau naturiol ar lefel fyd-eang, genedlaethol a lleol.
Cyn hyn roedd Katarina yn Ddirprwy Gyfarwyddwr ar Sefydliad yr Amgylchedd Stockholm ac yn ymchwilydd yng Nghanolfan Gwydnwch Stockholm.
Athro Cyswllt Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol ym Mhrifysgol Wilfred-Laurier yw Alison Blay-Palmer. Alison yw deiliad Cadair y Ganolfan Llywodraethu Rhyngwladol ac Arloesi mewn Systemau Bwyd Cynaliadwy, a Chyfarwyddwr sylfaen y Ganolfan Systemau Bwyd Cynaliadwy.
Mae Alison yn gweithio yn yr Adran Daearyddiaeth ac Astudiaethau Amgylcheddol lle mae'n ymchwilio i systemau bwyd gwydn a chymunedau cynaliadwy.
Cynhelir darlith flynyddol y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy ddydd Llun 16 Ebrill am 5.30pm yn Ystafelloedd Pwyllgor Adeilad Morgannwg.
Croeso i bawb. Tocynnau yn rhad ac am ddim ond rhaid archebu o flaen llaw.