Cyswllt PCOS ag ADHD ac anhwylder sbectrwm awtistiaeth
10 Ebrill 2018
Mae gan fenywod sydd â syndrom ofarïau polysystig (PCOS) dueddiad i gael anhwylderau iechyd meddwl ac mae gan eu plant fwy o risg o ddatblygu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD) ac anhwylder ar y sbectrwm awtistiaeth, yn ôl astudiaeth newydd gan ymchwilwyr yn Sefydliad Ymchwil y Niwrowyddorau ac Iechyd Meddwl Prifysgol Caerdydd.
Mae PCOS yn effeithio ar rhwng 7 a 10 y cant o fenywod oedran magu plant. Dyma’r achos mwyaf cyffredin o anffrwythlondeb mewn menywod ifanc, ac mae'r lefelau hormon gwrywaidd dyrchafedig sy'n gysylltiedig â'r cyflwr yn arwain at lawer o symptomau sy'n peri gofid emosiynol fel mislif afreolaidd, gwallt gormodol ar yr wyneb a'r corff, magu pwysau ac acne.
"PCOS yw un o'r cyflyrau mwyaf cyffredin sy'n effeithio ar fenywod ifanc heddiw, a dyw'r effaith ar iechyd meddwl ddim wedi'i werthfawrogi'n llawn eto," dywed Dr Aled Rees, a arweiniodd yr astudiaeth.
"Hon yw un o'r astudiaethau mwyaf i archwilio'r canlyniadau iechyd meddwl a niwroddatblygiadol andwyol sy'n gysylltiedig â PCOS, ac rydym ni'n gobeithio y bydd y canlyniadau'n arwain at gynyddu ymwybyddiaeth, canfod cynharach a thriniaethau newydd."
Yn yr astudiaeth carfan ôl-weithredol, asesodd y tîm hanes iechyd meddwl yn agos i 17,000 o fenywod â diagnosis o PCOS. Manteisiodd yr astudiaeth ar ddata gan y Cyswllt Data Ymchwil Ymarfer Clinigol (CPRD), cronfa ddata sy'n cynnwys cofnodion 11 miliwn o gleifion a gasglwyd o 674 practis gofal sylfaenol ar draws y DU.
O'u cymharu â menywod na effeithiwyd arnynt, a gydweddwyd o ran oedran a mynegai màs y corff, canfu'r astudiaeth fod cleifion PCOS yn fwy tebygol o gael diagnosis o anhwylderau iechyd meddwl gan gynnwys iselder, gorbryder, anhwylder deubengynol ac anhwylderau bwyta.
Canfuwyd hefyd fod plant a anwyd i famau â PCOS mewn perygl uwch o ddatblygu ADHD ac anhwylderau'r sbectrwm awtistiaeth. Mae'r canfyddiadau hyn yn awgrymu y dylid sgrinio menywod sydd â PCOS am anhwylderau iechyd meddwl, er mwyn sicrhau bod diagnosis cynnar a thriniaeth yn gwella eu hansawdd bywyd.
"Mae angen rhagor o ymchwil i gadarnhau effeithiau niwroddatblygiadol PCOS, ac ystyried a yw pob claf neu rai mathau o gleifion sydd â PCOS yn agored i risgiau iechyd meddwl," dywedodd Dr Rees.
Cyhoeddir yr astudiaeth ‘Polycystic Ovary Syndrome is associated with Adverse Mental Health and Neurodevelopmental Outcomes’ gan Journal of Clinical Endocrinology & Metabolism y Gymdeithas Endocrinoleg.