Diogelu bantengod Borneo
5 Ebrill 2018
Mae ymchwil newydd wedi canfod fod cadw ardaloedd mawr o goedwig yn hanfodol i ddiogelu’r mamal mawr sy’n wynebu’r bygythiad mwyaf yn Sabah.
Mae’r banteng Borneaidd dan fygythiad yn sgil colli a chwalu cynefin a hela dwys, sy’n golygu bod y rhywogaeth mewn perygl. Ond mae ymchwil ar y cyd wedi datgelu ffactorau sy’n chwarae rôl allweddol o ran cadwraeth y rhywogaeth hon.
Gwnaeth tîm o ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd, Canolfan Maes Danau Girang ac Adran Bywyd Gwyllt Sabah astudio poblogaethau gyrr yn Sabah, gan ddadansoddi arwahanu rhywiol ac effeithiau rheolaeth coedwigoedd gan ddefnyddio trapiau camera mewn chwe gwarchodfa coedwig.
Yn ddiddorol, gwnaethom ganfod fod cam adfywio’r goedwig, math y safle o fewn y warchodfa coedwig, presenoldeb blociau halen, llystyfiant y cynefin a phellter i’r ffin goedwig agosaf i gyd yn cael effaith sylweddol ar feintiau gyrroedd banteng.
Dywedodd Dr Penny Gardner, Swyddog Cadwraeth y Banteng Borneaidd ar gyfer Canolfan Maes Danau Girang: “Mae ein canfyddiadau yn golygu bod torri coed a’r math o safleoedd sy’n cael eu creu gan weithgareddau cynaeafu yn dylanwadu ar y ffordd y mae bantengod yn ymddwyn ac yn trefnu eu hunain - ffactor pwysig iawn ar gyfer rhywogaethau cymdeithasol iawn fel y banteng.
“Mae angen coedwigoedd mawr ar y banteng i osgoi gweithgarwch dynol ac i gynnal gyrroedd mawr, sy’n hanfodol ar gyfer cynnal ymddygiad cymdeithasol fel bridio.
“Gwnaethom ganfod fod gyrroedd banteng yn lleihau pan fo ffiniau’r goedwig yn agos, ac wrth i’r boblogaeth leihau, felly hefyd mae meintiau’r gyrroedd.
“Felly, mae gennym amrywiaeth o ffactorau ar waith, megis colli coedwigoedd, lleihad mewn maint coedwigoedd a chynaeafu pren. Mae’r rhain i gyd yn cyfrannu at ddirywiad y banteng.
“Yn awr, mae angen i ni gydweithio i ddod o hyd i strategaeth addas i gynnal cynhyrchiant coedwigoedd a hefyd i sicrhau bod poblogaethau banteng, a rhywogaethau eraill, yn ffynnu, nid dim ond goroesi.”
Bydd yr ymchwil newydd yn llywio strategaethau cadwraeth ar gyfer y banteng Borneaidd.
Yn ôl Dr Benoit Goossens, Cyfarwyddwr Canolfan Maes Danau Girang a Darllenydd ym Mhrifysgol Caerdydd: “Mae ein hastudiaeth yn cyfrannu at ddealltwriaeth well o ecoleg y banteng a bydd yn helpu i gynhyrchu strategaethau rheoli effeithiol â’r nod o greu cynefin addas ar gyfer ailboblogi a galluogi parhad poblogaethau banteng.
“Yn wir, y llynedd, trefnodd Adran Bywyd Gwyllt Sabah a Chanolfan Maes Danau Girang weithdy rhyngwladol ar gadwraeth y banteng Borneaidd.
“Mae cynllun gweithredu 10 mlynedd ar gyfer y rhywogaeth wrthi’n cael ei ddrafftio gyda’r nod yn y pen draw o sicrhau dyfodol y banteng Borneaidd yn Sabah.”
Cefnogwyd y gwaith hwn gan Sw Houston, Cyngor Olew Palmwydd Malaysia, Cronfa Cadwraeth Rhywogaethau Mohamed bin Zayed, Sw Woodland Park a Yayasan Sime Darby.