Ewch i’r prif gynnwys

Rôl flaengar i’r Athro Nicola Phillips yng Ngemau’r Gymanwlad

3 Ebrill 2018

Nicola Phillips
Prof Nicola Phillips

Bydd yr Athro Nicola Phillips yn manteisio ar ei holl brofiad o ddigwyddiadau mawr i’w hysbrydoli wrth iddi arwain tîm Cymru yn rôl Chef de Mission yng Ngemau'r Gymanwlad sydd ar y gweill yn Awstralia.

Mae’r ffisiotherapydd o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Caerdydd yn gyfrifol am sicrhau bod dros 200 o athletwyr yn gallu perfformio hyd eithaf eu gallu yng Ngemau’r Arfordir Aur 2018.

"Mae gennym 214 o athletwyr yn cystadlu yma ar yr Arfordir Aur, felly mae gennym lawer o athletwyr o wahanol gampau ac oedran," meddai’r Athro Phillips.

"Rydym yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod yn gofalu am bawb fel bod yr holl baratoadau sy’n gysylltiedig â mynd i wlad arall mor ddiffwdan â phosibl er mwyn eu galluogi i ganolbwyntio ar gystadlu."

Rhaid i’r Chef de Mission gyflawni tasgau allweddol fel goruchwylio'r trefniadau teithio a gwneud yn siŵr bod athletwyr wedi’u cofrestru ar gyfer y digwyddiadau cywir. Fodd bynnag, mae angen iddi hefyd arwain, ysgogi a mentora.

Dywedodd yr Athro Phillips bod yr athletwyr yn gwybod yn union beth sydd i’w ddisgwyl ganddynt yn y Gemau – hynny yw, gwireddu eu potensial unigol yn eu digwyddiad dewisol.

"Rydym wedi gosod nod i’r athletwyr i gael cynifer o amserau gorau personol â phosibl ar gyfer y tîm," meddai hi.

"Os bydd pawb yn gweithio mor galed â phosibl, mae gennym athletwyr rhagorol fydd yn ennill medalau os bydd pawb yn cael amserau gorau personol.

"Dyna’r unig beth y gallent ei reoli – nid ydynt yn gallu rheoli sut mae rhywun arall yn cystadlu.

"Hoffem weld Gemau llwyddiannus gyda chynifer o amserau gorau personol â phosibl. Drwy wneud hynny, byddwn wedi ysbrydoli’r bobl nôl gartref i roi cynnig ar gamp a chymryd rhan mewn chwaraeon mewn rhyw ffordd. Byddai hynny'n wych."

Y Gemau hyn fydd ei chyntaf fel Chef de Mission, ond mae gan yr Athro Phillips gyfoeth o brofiad, gan gynnwys o fod yn y Gemau Olympaidd yn ogystal â gweithio gyda Thîm Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad yn y gorffennol.

"Rwyf wedi gweithio gyda Thîm Cymru ers amser maith, dros 30 mlynedd, a dyma fydd y nawfed tro imi gymryd rhan yng Ngemau’r Gymanwlad," meddai.

"Ffisiotherapydd oedd fy ngwaith gwreiddiol, rôl wahanol iawn, ond rydych yn cael gweld llawer o’r gweithredu a’r logisteg sy’n digwydd.

"Ond mae newidiadau enfawr wedi bod ers hynny – er enghraifft pa mor dda mae athletwyr yn paratoi nawr o'i gymharu â’r cymorth gawson nhw yn y gorffennol. Felly, mae hynny wedi newid llawer, ond mae'r rôl yn wahanol iawn yn ogystal, ac yn fwy amrywiol."

Mae’r Athro Phillips yr un mor frwdfrydig ac angerddol nawr ag yr oedd hi pan ddechreuodd hi, efallai am ei bod yn parhau i gael eu hysbrydoli gan ymrwymiad yr athletwyr eu hunain.

"Roeddwn mewn derbyniad gan Uwch Gomisiwn Prydain yma ac roedd athletwyr o wahanol wledydd Prydain yno. Roeddent yn sôn am eu hanes, beth oedd wedi'u hysbrydoli, rhai o'r anawsterau yr oeddent wedi’u hwynebu a sut roedd hynny’n eu sbarduno rhagor" meddai hi.

"Fe wnaeth hynny fy atgoffa i pam yr ydw i yn gwneud y gwaith hwn oherwydd rwy’n cael clywed y straeon gwych hynny am beth y maent wedi'i wneud i gyrraedd lle y maen nhw heddiw."

Bydd Gemau'r Gymanwlad 2018 ar yr Arfordir Aur rhwng 4 a 15 Ebrill 2018.

Rhannu’r stori hon