Y Brifysgol yn noddi gŵyl gymunedol boblogaidd
18 Mehefin 2015
Bydd gŵyl flynyddol sydd wedi dod â chymuned ynghyd ers dros 30 mlynedd, yn cael ei noddi eleni gan un o brosiectau ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol
Mae Gŵyl Grangetown, a gynhelir ddydd Sadwrn, 20 Mehefin, yn denu pobl o bob oed i barti enfawr sy'n cynnwys cerddoriaeth, sinema dros dro, gorymdaith, gweithgareddau i blant a llawer mwy.
Noddir y digwyddiad poblogaidd gan brosiect Porth Cymunedol y Brifysgol, sy'n cefnogi pobl yn Grangetown i wneud eu cymdogaethau yn lleoedd hyd yn oed yn well i fyw ynddynt.
Cyflwynwyd y nawdd yn dilyn ymgynghoriad a amlygodd y ffaith mai'r ŵyl hon yw un o'r cyfleoedd prin sy'n dod â chymunedau Grangetown ynghyd.
Roedd cynrychiolwyr cymunedol am i'r Porth Cymunedol helpu i ddatblygu'r digwyddiad, meithrin cysylltiadau a dathlu'r hyn sydd orau am Grangetown.
Yn ôl Mhairi McVicar, arweinydd prosiect y Porth Cymunedol: "Mae'n gyfle gwych i ni gefnogi'r gymuned leol, ceisio barn pobl ynglŷn â beth ddylem ei wneud yn Grangetown, meithrin cysylltiadau a hyrwyddo gwaith cyffrous y Porth Cymunedol.
"Mae Prifysgol Caerdydd wedi ymrwymo i feithrin partneriaeth hirdymor gyda thrigolion Grangetown i wneud yr ardal yn lle hyd yn oed yn well i fyw ynddi. Gwneir hyn drwy ymchwil o'r radd flaenaf, addysgu a chyfleoedd datblygu proffesiynol."
Bydd yr ŵyl, a gydlynir gan grŵp preswylwyr Gweithredu Cymunedol Grangetown, yn dechrau am 1 o'r gloch yng Ngerddi Grange, ac yn gorffen am 5 o'r gloch. Bydd y sinema dros dro yn parhau'r dathliadau drwy ddangos y brif ffilm fydd yn dechrau am 5 o'r gloch.
Bydd grŵp preswylwyr arall, Prosiect Pafiliwn Grange, yn agor drysau'r hen bafiliwn fowlio a'r lawnt fowlio yng Ngerddi Grange yn rhan o'r ŵyl, i barhau'r gwaith o ganfod ffyrdd newydd o ddefnyddio'r cyfleusterau fel man cymunedol.
Dywedodd y preswylydd Richard Powell o Brosiect Pafiliwn Grange, fod cefnogaeth foesol ac ariannol y Brifysgol yn helpu'r gymuned i gyflawni dyheadau lleol a chyflwyno cynigion "credadwy ac ymarferol".
Mae academyddion ledled y Brifysgol yn edrych ar ffyrdd o gydweithio â thrigolion er mwyn datblygu addysgu ac ymchwil o'r radd flaenaf er budd Grangetown.
Yn ogystal â chynnig y cyfle i'r trigolion feithrin cysylltiadau newydd a threulio amser gyda chymdogion, bydd yr ŵyl yn galluogi'r Brifysgol i hyrwyddo'r Porth Cymunedol a beth allai ei gynnig.
Mae Porth Cymunedol yn un o bum prosiect ymgysylltu blaenllaw'r Brifysgol, a elwir hefyd yn rhaglen Trawsnewid Cymunedau'r Brifysgol.
Mae'r Brifysgol yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chymunedau yng Nghaerdydd, Cymru a thu hwnt ym meysydd iechyd, addysg a lles ymhlith eraill.
Mae hyn yn cynnwys cefnogi Dinas-Ranbarth Caerdydd, cysylltu cymunedau drwy wefannau hyperleol, creu modelau ymgysylltu cymunedol a helpu i gyflawni Nodau Datblygu'r Mileniwm y Cenhedloedd Unedig.
Bydd gan y Porth Cymunedol, a'r prosiect ymgysylltu blaenllaw arall 'Cymunedau Cryfach, Pobl Iachach', yn ogystal ag aelodau o'r Ysgol Seicoleg, stondinau yn yr ŵyl i hyrwyddo'r cyfleoedd sydd ar gael i breswylwyr i gydweithio â'r Brifysgol.