Amser Justin Time ar raglen deledu Heno
29 Mawrth 2018
Ymwelodd soprano o Gymraes â Sefydliad Ymchwil Ewrop i Fôn-gelloedd Canser i weld sut mae rhoddion y cyhoedd yn ariannu ymchwil hanfodol i ganser y pancreas.
Agorodd y sefydliad ei ddrysau i griw Heno yn rhan o raglen fu’n astudio gwaith Amser Justin Time, elusen yng Nghymru sy’n hel arian i helpu i wella’r diagnosis a'r driniaeth ar gyfer canser y pancreas.
Cantores glasurol o Gymraes, Shân Cothi, sefydlodd yr elusen yn 2008 ar ôl colli ei gŵr, Justin Smith, o ganlyniad i ganser y pancreas. Llywiodd Shân daith dair wythnos ar gefn ceffyl o Brestatyn i Aberogwr er cof am ei diweddar ŵr i godi ymwybyddiaeth o ganser y pancreas a hel rhoddion a allai achub bywydau.
Ers sefydlu Amser Justin Time, mae'r elusen wedi codi dros chwarter miliwn o bunnoedd ar gyfer ymchwil i ganser y pancreas.
Mae Amser Justin Time wedi helpu i ariannu gwaith y Dr Catherine Hogan yn Sefydliad Ymchwil Ewrop i Fôn-gelloedd Canser, Prifysgol Caerdydd, sy'n astudio rôl celloedd bonyn ym maes canser y pancreas ac yn ceisio gwella’r diagnosis, y driniaeth a ffyrdd o atal y clefyd.
Meddai’r Dr Catherine Hogan, Cymrawd Ymchwil: "Mae diddordeb gan fy nghylch ymchwil ynglŷn â deall sut y gall newidiadau yn y genynnau sy'n achosi canser ehangu i ffurfio tiwmorau canser y pancreas.”
"Rydyn ni’n astudio sut y gall celloedd canseraidd a chanddynt newidiadau mewn genyn niweidiol o’r enw KRa osgoi prosesau amddiffynnol y corff a throi’n ganser y pancreas.”
"Mae canser y pancreas yn glefyd prin a dydyn ni ddim yn deall ei hynt yn dda.”
"Mae’n hanfodol adnabod canser y pancreas yn gynnar fel y gall rhagor o bobl oroesi. Trwy ddeall cyfnodau cynnar canser y pancreas yn well, bydd modd ei ganfod a’i adnabod cyn y gall droi’n glefyd marwol.”
"Mae gwaith Sefydliad Ymchwil Ewrop i Fôn-gelloedd Canser yn trawsffurfio’r modd rydyn ni’n trin canser trwy ymchwil o’r radd flaenaf i gelloedd bonyn canser.”
"Mae cymorth Shân Cothi ac Amser Justin Time yn hanfodol am ein bod yn dibynnu ar gymorth o’r fath i barhau â'n gwaith."
Yn ystod awr y rhaglen arbennig, fe welwch chi Shân Cothi wrth iddi ymweld â’r sefydliad i weld sut mae cyfraniadau’r elusen yn helpu i dalu am ymchwil bwysig i'r clefyd.
Mae Amser Justin Time wedi ariannu swyddi dau ymchwilydd, y Dr Sean Porazinsky a Zaragkoulias Andreas, sy’n rhan o gylch ymchwil Catherine yn Sefydliad Ymchwil Ewrop i Fôn-gelloedd Canser.
Yn ystod y rhaglen, cewch chi gip ar bersonoliaeth unigryw Justin hefyd, yn ogystal â chlywed rhai o’i gyfeillion a’i berthnasau yn sôn amdano yn agored ac yn dyner.
Ymwelodd Shân â’r hosbis ym Mhenarth lle y treuliodd Justin ei ddyddiau olaf a lle y priodon nhw tua’r diwedd.
Mae'r rhaglen yn cynnwys uchafbwyntiau cyngerdd ym Mhafiliwn Pontrhydfendigaid i ddathlu degawd cyntaf Amser Justin Time, hefyd.
Bydd y cyfan yn rhan o raglen Heno ar S4C am 7 o’r gloch nos Wener 30ain Ebrill.