Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2015
18 Mehefin 2015
Llwyddiant ysgubol i brosiect sychwyr gwlyb clinigol yn y Gwobrau Arloesedd
Partneriaeth a ddatblygodd sychwyr gwlyb clinigol i fynd i'r afael â heintiau difrifol, neu'r 'Superbug', mewn ysbytai yw Dewis y Bobl yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2015, a noddir gan gwmni cyfreithiol blaenllaw Geldards ac IP Group.
Cafodd bron i 1,000 o bleidleisiau eu bwrw mewn cystadleuaeth ar y cyfryngau cymdeithasol. Roedd mwy na chwarter wedi dewis prosiect rhwng GAMA Healthcare a'r Brifysgol fel hoff brosiect y cyhoedd.
Mae'r bartneriaeth wedi helpu GAMA, un o brif gwmnïau sychwyr gwlyb clinigol y DU, i ddatblygu cynhyrchion newydd, a gwella enw da rhyngwladol y Brifysgol o ran rheoli heintiau ar yr un pryd.
Roedd angen prawf clinigol ar GAMA bod eu sychwyr gwrthfeicrobaidd yn effeithiol yn erbyn yr hyn a elwir yn 'superbug', Clostridium difficile.
Dyfarnwyd grant Partneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth (KTP) gan Innovate UK ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a oedd yn galluogi GAMA i ddefnyddio gwybodaeth y Brifysgol i sefydlu a chynnal treialon clinigol, hyfforddi staff a datblygu gallu ymchwil a datblygu mewnol.
Fe wnaeth y microbiolegydd Harsha Siani, Gweithiwr Cyswllt KTP, drosglwyddo arbenigedd a gwybodaeth wyddonol o Brifysgol Caerdydd i GAMA, gan helpu i sicrhau bod cynnyrch y cwmni'n cydymffurfio â rheoliadau'r UE ac yn bodloni amodau prawf llym a oedd yn adlewyrchu'r defnydd o'r cynnyrch yn well.
Wrth gyflwyno Gwobr Dewis y Bobl i GAMA Healthcare, dywedodd Dr Andrew Goodall, Prif Weithredwr GIG Cymru: "Braf iawn oedd cael dod i'r Seremoni Wobrwyo hon, ac mae'n bleser gweld pedair o'r pum gwobr yn cael eu cyflwyno i brosiectau yn y sector gofal iechyd. Mae hyn wir yn dangos pwysigrwydd hanfodol arloesedd i'r GIG yng Nghymru."
Meddai'r Athro Jean-Yves Maillard, o Ysgol Fferylliaeth a Gwyddorau Fferyllol Prifysgol Caerdydd, wrth dderbyn y Wobr: "Rydym ar ben ein digon o fod wedi ennill y wobr hon. Mae ein prosiect yn dangos sut gall ymchwilwyr ryngweithio â'r diwydiant 'yn y byd go iawn' i greu arloesedd sy'n cael effaith. Rydym wedi helpu i wneud yn siŵr bod cynnyrch a ddefnyddir fel rhan o weithdrefn rheoli heintiau mewn lleoliadau gofal iechyd yn gallu gwneud gwahaniaeth a helpu i reoli heintiau pathogenau trafferthus."
Dywedodd Guy Braverman, Cyfarwyddwr a Chyd-sylfaenydd GAMA Healthcare: "Mae'r wobr yn gydnabyddiaeth hyfryd o'r gefnogaeth wych a gawsom gan Brifysgol Caerdydd o ran gwella ein gwybodaeth ac ymgorffori adnoddau sy'n ein galluogi i barhau i arwain y farchnad yn y DU. Mae gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd wedi ein galluogi i fod yn rhan annatod o waith ymchwil arloesol."
Yn ogystal, enillodd y prosiect y wobr Arloesedd Busnes, a dathlwyd llwyddiant pedwar prosiect buddugol arall yn y Seremoni Wobrwyo hefyd.
Mae tîm o fodelwyr mathemategol sy'n defnyddio data i helpu i achub bywydau wedi ennill y wobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd. Mae'r arbenigwyr, dan arweiniad yr Athro Paul Harper, yr Ysgol Mathemateg, yn astudio ciwiau a llif cleifion mewn ysbytai i helpu i wella gwasanaethau'r GIG, lleihau amseroedd aros, a gwella mynediad at ofal.
Dyfarnwyd Gwobr Polisi Arloesedd i waith ymchwil sydd wedi dangos y ffordd orau o gefnogi teuluoedd anwyliaid sydd ag anafiadau difrifol i'r ymennydd. Mae'r Athro Jenny Kitzinger (Prifysgol Caerdydd) a'i chwaer a'i chydweithiwr, yr Athro Celia Kitzinger (Prifysgol Efrog), wedi troi achosion o anafiadau trychinebus i'r ymennydd yn adnodd hyfforddi/cefnogi ar-lein amlgyfrwng.
Ymchwilwyr yn y Brifysgol sydd wedi helpu i newid bywydau pobl ifanc ddigartref enillodd y Wobr Arloesedd Cymdeithasol. Gweithiodd y tîm gyda Llamau, elusen flaenllaw sy'n cefnogi pobl ifanc ddigartref a menywod agored i niwed yng Nghymru. Gwnaethant ddatblygu technegau sgrinio newydd i helpu staff Llamau i sylwi ar rybuddion fod pobl mewn perygl a chyflwyno gwasanaethau cymorth effeithiol ar eu cyfer.
Dyfarnwyd y Wobr Arloesedd mewn Cynaliadwyedd i dîm a gynlluniodd dŷ clyfar sy'n cynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio. Mewn ymgais i gyrraedd targedau ar gyfer tai di-garbon, mae Ysgol Pensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd wedi datblygu'r tŷ cyntaf cost isel i gynhyrchu mwy o ynni na'r hyn mae'n ei ddefnyddio - y cyntaf i gyfuno llai o alw am ynni, cyflenwad ynni adnewyddadwy wedi'i integreiddio i'r adeilad a storfa ynni.