Treial clinigol cyntaf dan arweiniad y GIG ar gyfer clefyd thyroid y llygaid
27 Mawrth 2018
Mae’r treial clinigol cyntaf dan arweiniad y GIG ar glefyd thyroid y llygaid (TED) – dirywiad yng nghyflwr y llygaid sy’n achosi iddynt ymwthio allan, golwg dwbl a chwyddo o gwmpas y llygaid – wedi dangos nad yw radiotherapi, sy’n driniaeth ddrud a hirfaith, yn helpu cleifion sydd hefyd yn cael tabledi steroid.
Roedd cyffuriau antiproliferative, sy'n atal twf celloedd yn y cleifion sy'n gallu cymryd y meddyginiaethau hyn, yn lleihau difrofoldeb y clefyd.
Cynhaliwyd yr astudiaeth, a arweiniwyd gan ymchwilwyr ym Mhrifysgolion Bryste a Chaerdydd, ynghyd ag Ysbyty Llygaid Bryste ac Ysbyty Llygaid Moorfields yn Llundain, ar draws 11 o ysbytai’r GIG. Treuliodd y tîm ymchwil ddeng mlynedd i'w chwblhau.
Meddai Dr Richard Lee, Uwch-ddarlithydd Ymgynghorol yn Ysgol Meddygaeth Bryste: THS a dirprwy gyfarwyddwr, Cyfleuster Ymchwil Glinigol Moorfields NIHR: "CIRTED (cyfuno gwrth-imiwnedd a radiotherapi yng nghlefyd thyroid y llygaid) yw’r unig dreial aml-ganolfan sydd wedi’i gynnal ar y cyflwr hwn yn y DU. Mae’r cyflwr yn dirywio ac yn niweidio’r golwg ac un o’r symptomau yw golwg dwbl."
Ychwanegodd yr Athro Colin Dayan a Dr Peter Taylor, o Ysgol Meddygaeth Prifysgol Caerdydd: "Canfu treialon CIRTED a MINGO y byddai’r cleifion TED hynny a oedd wedi cael eu trin â steroidau hefyd yn elwa o'r cyffur antiproliferative, fel Mycophenolate, ac na ddylent gael radiotherapi orbitol."
Ariannwyd yr astudiaeth gan grŵp o elusennau ymchwil meddygol (Canolfan Ymchwil Genedlaethol y Llygaid, Above and Beyond, ac Elusen Llygaid Moorfields) sy’n rhan o seilwaith ymchwil y GIG.
Mae’r papur 'Cyfuno gwrth-imiwnedd a radiotherapi ar glefyd thyroid y llygaid (CIRTED): hap-dreial rheoledig, aml-ganolfan, ffactoraidd 2 × 2, dwbl ddall' yn cael ei gyhoeddi yn Lancet Diabetes & Endocrinoleg.