Ysbrydoliaeth y Brifysgol i gapten rygbi Cymru
26 Mawrth 2018
Nid oedd capten tîm rygbi saith pob ochr menywod Cymru yng Ngemau’r Gymanwlad wedi cyffwrdd mewn pêl rygbi nes iddi ddechrau astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.
Penderfynodd Philippa Tuttiett (BA 2005) roi cynnig ar rygbi’r undeb ar ôl bod yn y ffair chwaraeon, heb unrhyw syniad am ble y gallai fynd â hi.
Ers hynny, mae’r cynfyfyriwr cyfathrebu wedi mwynhau gyrfa rygbi ar y lefel uchaf, ac mae ei golygon nawr ar Gemau'r Gymanwlad Awstralia 2018 lle bydd cystadlaethau rygbi menywod saith pob ochr yn cael eu cynnal am y tro cyntaf.
Dywedodd Philippa: "Dwi’n hynod o falch. Mae clywed eich bod wedi cael eich dewis yn un peth ond mae cael eich dewis yn gapten hefyd...waw!
"Rwy'n cofio mynd i Brifysgol Caerdydd a mynd i’r ffair chwaraeon. Roeddwn i wrth fy modd gan fod cynifer o bethau y gallech chi eu gwneud.
"Roeddwn i’n casglu’r holl daflenni ‘ma, ac yna fe welais rygbi i fenywod. Meddyliais 'pam lai, na’ i gofrestru'.
"Dwi’n credu bod y sesiwn ymarfer gyntaf ar y diwrnod canlynol, felly aeth fy mam â fi i brynu’r holl ddillad perthnasol a chyrhaeddais yr ymarfer cyntaf a mwynhau’n arw!”
Cafodd amser hapus ym Mhrifysgol Caerdydd a dywedodd Philippa iddi werthfawrogi'r holl gyfleoedd a chefnogaeth oedd ar gael iddi, gan gynnwys bwrsariaeth oedd o "gymorth mawr".
Datblygodd ei sgiliau rygbi ac, ar ôl gadael Prifysgol Caerdydd, aeth ymlaen i gynrychioli timau gan gynnwys Gleision Caerdydd, Bristol Ladies a Chymru cyn rhoi’r gorau i chwarae 15 pob ochr er mwyn canolbwyntio ar rygbi saith pob ochr.
Mae ei diwrnodau’n gallu bod yn faich wrth iddi gyfuno ei hamserlen hyfforddi llym ochr yn ochr â rhedeg ei busnes adeiladu ei hun, Female Building and Interiors, a sefydlwyd ganddi yn 2007.
Rywsut, mae Philippa hefyd wedi cael amser i gyflwyno rhaglenni DIY ar deledu cenedlaethol, sylwebu ar rygbi rhyngwladol ar y teledu, a mentora pobl ifanc sydd o dan anfantais.
Fodd bynnag, mae nawr yn canolbwyntio ar rygbi saith pob ochr gan fod wythnosau enfawr o flaen Philippa a’i chyd-aelodau, sydd hefyd yn cynnwys Elinor Snowsil (TAR 2014) sy’n gynfyfyriwr o Brifysgol Caerdydd.
Dywedodd Philippa: "Mae Elinor yn dactegydd go iawn, yn chwaraewr rygbi profiadol mewn timau saith pob ochr ac 15 pob ochr fel ei gilydd - mae’n gaffaeliad enfawr i’n tîm. Ni waeth pa mor galed yw’r gêm, rydych yn gwybod y gallwch ddibynnu arni i fod yn bwyllog a gwneud y penderfyniad cywir. Mae hi’n arweinydd gwirioneddol ar y maes."
Cyn gadael am Awstralia ar gyfer Gemau'r Gymanwlad, bydd tîm Cymru yn chwarae nifer o gemau rhagbrofol yn rhan o Gyfres Saith Pob Ochr Rygbi’r Byd HSBC yn Hong Kong ddechrau mis Ebrill – a bydd yr enillydd yn cael lle yng nghyfres fawreddog y byd.
"Mae am fod yn bythefnos hynod o brysur i ni," meddai Philippa.
"Mae’r gemau rhagbrofol yn Hong Kong ar y penwythnos cyn Gemau'r Gymanwlad a byddai bod cyrraedd cyfres y byd yn gweddnewid rygbi menywod yng Nghymru.
"Byddwn wedyn yn mynd i Gemau'r Gymanwlad lle byddwn yn chwarae yn erbyn y tîm cartref, Awstralia, yn ein gêm gyntaf, ac mae’r holl docynnau eisoes wedi’u gwerthu ar ei chyfer."
A gallwch warantu y bydd Philippa yn mwynhau bob munud o’r profiad.
"Dwi’n dwlu ar y ffaith bod y timau saith pob ochr yn garfanau llai - rydych chi wir yn magu perthynas glòs fel tîm," meddai. "Rhaid i chi gefnogi eich gilydd yn ogystal â herio’r naill a’r llall a dwi wrth fy modd â’r amgylchedd hwnnw."
Bydd Gemau'r Gymanwlad yr Arfordir Aur 2018 yn cael eu cynnal rhwng 4 a 15 Ebrill 2018, a bydd y gystadleuaeth rygbi saith pob ochr i fenywod yn cael ei chynnal rhwng 13 a 15 Ebrill.