Caerdydd yn ennill dwy Wobr Dewi Sant
23 Mawrth 2018
Mae dwy bartneriaeth ragorol ym Mhrifysgol Caerdydd wedi ennill Gwobrau Dewi Sant.
Enillodd Prosiect Phoenix anrhydeddau rhyngwladol am wella bywydau yn Namibia, a chipiodd IQE y wobr arloesedd am eu gwaith blaengar ym maes Lled-ddargludyddion Cyfansawdd.
Mewn partneriaeth â Phrifysgol Namibia, mae Prosiect Phoenix yn mynd i'r afael â thri maes eang - menywod, plant a chlefydau heintus; gwyddoniaeth; a chyfathrebu.
Mae IQE yn gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd er mwyn datblygu technolegau wafferi Lled-ddargludyddion Cyfansawdd. Mae menter ar y cyd - y Ganolfan Lled-ddargludyddion Cyfansawdd - yn datblygu cynhyrchion arloesol.
Dywedodd yr Athro Judith Hall, sy'n arwain Prosiect Phoenix, fod y wobr yn gydnabyddiaeth i bawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect.
"Mae'r Wobr yn ffrwyth ymrwymiad ac ymdrech gan lawer o bobl anhygoel yng Nghymru a Namibia sy'n gwneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl.
"Heb y berthynas wych, gref sydd wedi’i meithrin rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Namibia, ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl. Mae'r gwobrau hyn mor hyfryd ac yn gwneud i chi deimlo’n fel eich bod wedi cael eich anrhydeddu gan Lywodraeth Cymru a phobl Cymru."
Canmolodd Dr Drew Nelson, Llywydd a Phrif Weithredwr IQE ccc, waith caled staff IQE am eu llwyddiant byd-eang a'i bartneriaeth gyda Phrifysgol Caerdydd.
"Rwy'n falch iawn o bob un ohonynt.
Maent yn griw anhygoel ac wedi gweithio’n ddyfal er mwyn sicrhau bod IQE yn gwmni byd-eang gwych, ac rwy'n derbyn y wobr ar eu rhan. "
Mae Gwobrau Dewi Sant, a gyflwynwyd gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, yn y Senedd ym Mae Caerdydd, yn cydnabod ac yn dathlu llwyddiannau rhagorol pobl a grwpiau o bob lliw a llun yng Nghymru.
Meddai Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones: "Mae'r enillwyr yn glod enfawr i'ch teuluoedd, ffrindiau, cymunedau, ac i Gymru gyfan. Llongyfarchiadau mawr i chi ac i bawb a gyrhaeddodd y rownd derfynol.
Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil, Arloesedd ac Ymgysylltu: “Mae mor braf gweld gwaith caled cydweithwyr a phartneriaid yn cael eu cydnabod gan Wobrau nodedig Dewi Sant.
"Mae Prosiect Phoenix, sydd wedi bod o fudd i Gymru a Namibia fel ei gilydd, wedi helpu i newid bywydau pobl ac mae wedi cael ei gydnabod yn eang am ei bartneriaeth ardderchog gyda Phrifysgol Namibia.
"Mae ein gwaith gydag IQE, sy’n arbenigwyr ar lwyfan rhyngwladol ym maes lled-ddargludyddion cyfansawdd, yn parhau i dderbyn anrhydeddau.
Mae'r fenter ar y cyd yn parhau i ddatblygu prosiectau arloesol sy'n ennill busnes newydd."