Dewis Charlotte ar gyfer tîm Prydain yn Hanner Marathon y Byd
22 Mawrth 2018
Mae aelod o staff Prifysgol Caerdydd sy'n cefnogi myfyrwyr sy'n cystadlu mewn chwaraeon ar lefel uchel wedi cael ei dewis i gynrychioli Prydain ym Mhencampwriaeth Hanner Marathon y Byd.
Bydd Charlotte Arter yn cystadlu yn erbyn rhai o athletwyr pellter gorau'r byd yn y ras ryngwladol yn Valencia, Sbaen, ddydd Sadwrn 24 Mawrth.
Mae Charlotte, sy'n 26 oed, ac yn edrych ar ôl Rhaglen Perfformiad Uchel y Brifysgol, am barhau â'r cynnydd enfawr mae wedi'i wneud yn y misoedd diweddar.
Dyma ei thro cyntaf yn canolbwyntio ar yr hanner marathon, ond mae hi'n teimlo'n ffit a gorffennodd hi'n drydydd yn ras Big Half Llundain ar 4 Mawrth, gydag amser personol gorau o 71:31.
O ganlyniad i hyn cafodd ei dewis i fod yn nhîm Prydain yn Valencia ochr yn ochr â phedair athletwraig arall yn nhîm Prydain a thîm dynion.
"Rwy'n teimlo'n gyffrous dros ben a dweud y gwir. Mae cynrychioli Prydain bob amser yn fraint, a dyma'r tro cyntaf i mi i gynrychioli Prydain mewn ras ar y ffordd," meddai Charlotte, sydd wedi cynrychioli Prydain o'r blaen mewn cystadleuaeth traws-gwlad.
"Mae'n ddigwyddiad tîm, ac mae pum merch yn nhîm Prydain, a thair ohonom yn sgorio. Fy nod yw bod yn athletwraig sy'n sgorio ar gyfer tîm Prydain a chyrraedd y safle uchaf posibl."
Cynhaliwyd Pencampwriaeth Hanner Marathon y Byd yng Nghaerdydd yn 2016 – wedi'i noddi gan Brifysgol Caerdydd – ac roedd llawer o fyfyrwyr, staff a chynfyfyrwyr y Brifysgol yn rhedeg yn y ras fawr.
Cwblhaodd Charlotte y digwyddiad yng Nghaerdydd mewn 73.16, amser cyflym ond dipyn yn fwy na'i hamser gorau personol.
Yn ôl Charlotte, mae ei llwyddiannau diweddar yn ganlyniad ei hamserlen hyfforddi, sy'n gorfod cyd-fynd â'i swydd amser llawn fel Swyddog Chwaraeon Perfformiad y Brifysgol.
Fel arfer, mae hi'n hyfforddi ddwywaith y dydd – yn gynnar yn y bore cyn gwaith ac yna gyda'r hwyr ar ôl gwaith – ac yn rhedeg rhwng 80 ac 85 awr yr wythnos. Mae ei hyfforddiant yn gymysgedd o redeg ar y ffordd, sesiynau trac, a gwaith yn y gampfa.
Dywedodd Charlotte ei bod hi'n mwynhau'r cyfuniad o gystadlu ar y lefel uchaf tra'n helpu myfyrwyr i gyrraedd eu potensial ym myd chwaraeon.
Mae Rhaglen Perfformiad Uchel y Brifysgol yn cynnig amrywiaeth o wasanaethau cefnogaeth i helpu myfyrwyr i ragori yn eu gyrfaoedd academaidd a chwaraeon, gyda chefnogaeth fel hyfforddiant cryfder a datblygiad corfforol, mynediad at ffisiotherapi a seicolegwyr chwaraeon, aelodaeth am ddim i holl gyfleusterau chwaraeon y Brifysgol, a gwobrau ariannol posibl.
"Mae gennym 50 o athletwyr ar y rhaglen eleni, ac maen nhw'n cystadlu ar lefel genedlaethol neu ryngwladol. Mae 20 o wahanol chwaraeon, gan gynnwys rhai mwy confensiynol fel hoci a rygbi, a rhai eraill fel saethu reiffl a chleddyfaeth," meddai Charlotte.
"Mae pump ohonynt yn mynd i Gemau'r Gymanwlad yn Awstralia ym mis Ebrill.
"Rwy'n gweithio rhwng naw a phump ac maen nhw mewn darlithoedd rhwng naw a phump, ac maen nhw'n gwybod beth yw fy lefel felly maen nhw'n gallu uniaethu â fi, ac rwy'n gallu uniaethu â nhw."
Mae Charlotte, sy'n dod o Gymbria'n wreiddiol, newydd gymhwyso i gynrychioli Cymru am ei bod yn byw yma, ac mae'n edrych ymlaen at gael cyfle i redeg dros ei gwlad fabwysiedig yn y dyfodol.
Bydd Cymru ar ei hennill o ganlyniad i golled Lloegr, ac er ei fod yn rhy hwyr iddi gystadlu yng Ngemau'r Gymanwlad eleni ym mis Ebrill, mae Charlotte yn edrych ymlaen at gynrychioli Cymru yn y dyfodol.
Mae hi nawr yn canolbwyntio ar dîm Prydain yn Valencia, er ei bod yn cyfaddef bod ganddi gynlluniau uchelgeisiol ar gyfer yr haf pan fydd ei sylw'n troi i'r trac.
"Rwy'n credu y bydda i'n gwneud marathonau yn y pen draw, ond yr haf hwn rwy'n mynd i ganolbwyntio ar y 5,000m a'r 10,000m ar y trac, gyda rhywfaint o 10km a hyd at bellteroedd hanner marathon," meddai.
"Rwy'n gobeithio cael yr un llwyddiant ar y trac ag a gefais ar y ffyrdd. Rwy'n mynd i redeg mewn digwyddiad treial yn Llundain ar gyfer Pencampwriaeth Athletau Ewrop 2018 yn Berlin, felly fy nod yw cael lle ynddi."
O ystyried ei pherfformiad ar y ffyrdd, mae'n bosibl y bydd hi'n gwisgo fest Prydain unwaith eto cyn bo hir.