Fforwm i fynd i'r afael â heriau dŵr y byd at y dyfodol
21 Mawrth 2018
Cyhoeddwyd fforwm mawr fydd yn canolbwyntio ar ddyfodol arloesedd, ecosystemau a gwydnwch ar gyfer diogelwch dŵr heddiw ar Ddiwrnod Dŵr y Byd. Mae'r digwyddiad, sy'n agored drwy wahoddiad yn unig, wedi'i drefnu gan Gynghrair Diogelwch Dŵr GW4 yn dod ag arweinwyr byd diwydiant, llywodraethau ac elusennau at ei gilydd i drafod heriau byd-eang pwysig sy'n ymwneud ag adnoddau dŵr.
Bydd y fforwm, Water in a changing world, yn cael ei gynnal ar 28 Mehefin 2018 yn Watershed, Bryste.
Bydd academyddion ac arweinwyr dŵr o amrywiaeth o sectorau yn trafod heriau ymchwil dŵr byd-eang y mae angen i'w sefydliadau fynd i'r afael â nhw dros y 25 mlynedd nesaf, a ffurfio gweithgareddau ymchwil gydweithredol newydd. Mae testunau trafod y panel yn cynnwys ymddygiad prynwyr a'i effaith ar ddŵr, bioamrywiaeth mewn ecosystemau dŵr ffres a chynaliadwyedd dŵr yng nghyd-destun newid hinsawdd.
Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4 yw consortiwm ymchwil dŵr mwyaf y DU, ac mae'n dod â phortffolio ymchwil gwerth £50 miliwn a dros 200 o ymchwilwyr dŵr ar draws GW4 at ei gilydd gydag arbenigedd hirsefydlog.
Mae Bath yn adnabyddus yn fyd-eang am dechnoleg a pheirianneg dŵr, dadansoddeg dŵr, a dadansoddi'r cylch dŵr; Bryste am fodelu'r amgylchedd dŵr a meintoli ansicrwydd; Caerdydd am wyddoniaeth ryngddisgyblaethol ynglŷn â dŵr ar gyfer pobl ac ecosystemau, a Chaerwysg am fynd i'r afael ag amrywiaeth eang o heriau ym maes dŵr trefol a hydrowybodeg. Yn ddiweddar cafodd Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4 £1m yn ddiweddar gan y Cyngor Ymchwil Amgylchedd Naturiol (NERC) i sefydlu canolfan hyfforddi ddoethurol gyntaf y DU, yn benodol ar gyfer “biowyddoniaeth dŵr croyw a chynaliadwyedd".
Dywedodd Dr Isabelle Durance, Cyfarwyddwr Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4 a Sefydliad Ymchwil Dŵr Prifysgol Caerdydd: "Mae diogelwch dŵr yn broblem fyd-eang y mae angen rhoi sylw brys iddi. Mae gan y pedwar sefydliad GW4 ymchwil, cyfleusterau a rhagoriaeth addysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ym maes gwyddorau dŵr. Mae eu cyfatebolrwydd yn golygu bod y gymuned ymchwil, gyda'i gilydd, yn gallu bod yn fwy na'i holl rannau, ac yn gallu cynnig gwyddoniaeth a hyfforddiant mwy dylanwadol. Yn ardal GW4, mae academyddion a'u partneriaid sy'n rhanddeiliaid mewn sefyllfa unigryw i fynd i'r afael â heriau dŵr critigol a sicrhau effaith economaidd a chymdeithasol ar lefel ranbarthol, genedlaethol a byd-eang. Mae'r digwyddiad yn gam cyntaf pwysig i ddechrau datblygu cynghrair ymchwil blaenllaw ar gyfer academyddion a rhanddeiliaid sy'n mynd i'r afael â heriau diogelwch dŵr rhanbarthol, cenedlaethol a byd-eang."
Dywedodd Dr Sarah Perkins, Cyfarwyddwr Cynghrair GW4: "Mae Cynghrair Diogelwch Dŵr GW4 wedi datblygu enw da am gynnig ymchwil, hyfforddiant doethurol a chyfarpar ar raddfa fawr. Fodd bynnag, dim ond drwy gydweithio effeithiol rhwng partneriaid academaidd, diwydiannol, elusennol a llywodraethau y gellir mynd i'r afael â mater byd-eang fel cynaliadwyedd dŵr, ac rydym wrth ein bodd i gynnig fforwm i ddod â'r arbenigwyr hyn ynghyd."