Gwobr adeiladu i ganolfan addysgu £13.5m
16 Mehefin 2015
Mae'r ganolfan newydd i ôl-raddedigion yn Ysgol Busnes Caerdydd, sy'n werth £13.5m, wedi ennill gwobr o bwys mewn digwyddiad sy'n dathlu'r gorau ym maes adeiladu yng Nghymru
Enillodd y ganolfan addysgu'r Wobr Iechyd a Diogelwch yng ngwobrau Adeiladu Arbenigrwydd yng Nghymru 2015, ac fe'i defnyddir gan weithwyr proffesiynol sy'n cael hyfforddiant yn ogystal â myfyrwyr amser llawn sy'n astudio ar gyfer cymwysterau lefel Meistr.
Bydd yr adeilad, a achubodd y blaen ar Ysbyty Brenhinol Caerdydd a chanolfan ailgylchu i gipio'r wobr, nawr yn cystadlu yn y gwobrau cenedlaethol fis Hydref.
Yn ôl y trefnwyr: "Eleni, yn fwy nag erioed o'r blaen, mae'n wir i ddweud bod pob un o'r sefydliadau, cwmnïau ac unigolion oedd yn gysylltiedig â'n gwobrau yn enillwyr, ac mae pob un ohonynt yn haeddu clod am eu hymroddiad at werthoedd craidd adeiladu yng Nghymru.
"Mae safon yr holl ymgeiswyr yn 2015 yn atgyfnerthu'r gred honno a'r gwerthoedd hynny. Unwaith eto, cafodd y beirniaid amser caled dros ben gan fod rhinweddau rhagorol gan bob cystadleuydd.
"Drwy wneud pethau'n briodol, dangosodd pob ymgeisydd bod pob £1 sy'n cael ei wario ar adeiladu yn dyblu mewn gwerth ac yn rhoi manteision enfawr i gymunedau lleol a'r wlad drwyddi draw os ydym yn dylunio, yn caffael ac yn adeiladu'n gywir."
Llwyddodd y prosiect i roi iechyd a diogelwch rhagorol i'r gweithlu a'r cyhoedd, gan gynnwys creu ap iechyd a diogelwch a chynnal sesiynau sgrinio iechyd y cyhoedd gyda'r elusen ganser leol, Tenovus.
Roedd hyn er gwaethaf sawl her o safbwynt iechyd a diogelwch, gan gynnwys llinell reilffordd gyfagos, prinder lle, a'r cyfleusterau addysgu y naill ochr i'r safle.
Daethpwyd o hyd i atebion i'r anawsterau hyn drwy gyfuniad o gynllunio a gweithredu'r prosiect yn ofalus, yn ogystal â thrafod yn rheolaidd gyda'r rhai oedd yn gysylltiedig â'r gwaith.
Cymerwyd camau i sicrhau diogelwch cerddwyr, fel cael porthor, mynediad diogel i'r safle a chreu llwybrau diogel i gerddwyr.
Roedd myfyrwyr a staff yn cael gwybodaeth a newyddion am iechyd a diogelwch ar sgrîn yn adeilad presennol yr Ysgol Busnes.
Roedd hyd yn oed y dyluniad yn ystyried iechyd a diogelwch gan mai sicrhau cyn lleied â phosibl owaith cynnal a chadw oedd y nod.
Mae gan y ganolfan ddwy ddarlithfa fawr, ystafell gyfnewid lle gall myfyrwyr ennill y sgiliau sydd eu hangen i weithio mewn Cyfnewidfa Stoc, ystafelloedd addysgu a seminar, ac amrediad o leoedd anffurfiol ar gyfer dysgu ac addysgu.
Cafodd y ganolfan ei henwi ar y rhestr fer yn y categori Dylunio drwy Arloesedd yng ngwobrau blynyddol RICS 2015 hefyd, ond Adeilad Hadyn Ellis y Brifysgol a gipiodd y wobr honno.
Rheolwyd y prosiect gan dîm Ystadau'r Brifysgol. Roedd ei bartneriaid yn cynnwys y prif gontractwyr ISG, y penseiri Boyes Rees, y peirianwyr sifil a strwythurol Bingham Hall, a'r syrfewyr meintiau Hills.