Cyfleoedd Newydd yn Ysgol y Biowyddorau
20 Mawrth 2018
Mae Ysgol y Biowyddorau wedi cyhoeddi ei bod yn hysbysebu nifer o swyddi yn rhan o'i strategaeth ymchwil newydd a blaengar.
Yn rhan o fuddsoddiad sylweddol mewn dulliau rhagfynegol a rhyngddisgyblaethol a systemau ym meysydd y gwyddorau biolegol a biofeddygol, mae Ysgol Biowyddorau Prifysgol Caerdydd yn hysbysebu nifer o swyddi ac mae’n awyddus i benodi ymgeiswyr eithriadol ar gyfer pedair swydd newydd.
Mae Ysgol y Biowyddorau am recriwtio Athro Dulliau Rhagfynegol a Systemau ym maes Bioleg, Darlithydd/Uwch-ddarlithydd/Darllenydd mewn Dulliau Rhagfynegol a Systemau ym maes Bioleg, Darlithydd/Uwch-ddarlithydd/Darllenydd mewn Bioleg Gyfrifiadurol neu Genomeg Ewcaryotig / Epigenomeg a Darlithydd/Uwch -ddarlithydd mewn Bioleg Synthetig neu Beirianneg Gellog.
Meddai’r Athro Jim Murray, Pennaeth yr Ysgol: "Dyma gyfle cyffrous i ymuno â ni yn Ysgol y Biowyddorau, un o adrannau gwyddoniaeth fiofeddygol a biolegol mwyaf y DU. Mae gennym dros 90 o staff academaidd ac ystod eang o ymchwil ar draws meysydd bioleg ecosystemau ac organebau, biowyddorau moleciwlaidd, biofeddygaeth a niwrowyddoniaeth.
"Rydym yn croesawu ymgeiswyr o unrhyw elfen o'r gwyddorau biolegol a biofeddygol sy'n integreiddio â meysydd ymchwil cyfredol yr ysgol."
Mae’r Ysgol wedi buddsoddi mewn labordai ymchwil newydd ac mewn offer modern drwy Ganolfannau Ymchwil Technoleg, ac mae nawr am recriwtio staff uchelgeisiol ac ymroddedig fydd yn cyfrannu at ei strategaeth ymchwil newydd a blaengar.
"Dyma gyfle rhagorol i unigolion cymwys lywio gweledigaeth Ysgol y Biowyddorau a’i rhoi ar waith yn y dyfodol," ychwanegodd Jim.
Ewch i'n gwefan recriwtio i gael gwybod rhagor am y cyfleoedd a sut i wneud cais.