Stiwdio CAER i feithrin cenhedlaeth newydd o artistiaid
20 Mawrth 2018
Bydd pobl o bob oedran ym maestrefi Caerau a Threlái yng ngorllewin Caerdydd yn dysgu sgiliau artistig newydd, o ganlyniad i fenter gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a'r artist Paul Evans.
Mae Stiwdio CAER yn ychwanegu at waith arloesol Prosiect Treftadaeth CAER, sy'n seiliedig ar un o safleoedd archeolegol pwysicaf Caerdydd - bryngaer Oes Haearn Caerau. Mae'n cael ei gydlynu mewn partneriaeth â'r sefydliad datblygu cymunedol Gweithredu yng Nghaerau a Threlái (ACE) a'r ysgol uwchradd leol Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd.
O ganlyniad i grant sylweddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau, bydd pobl sy'n byw yng Nghaerau a Threlái yn cael cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau artistig, wedi eu hysbrydoli gan wybodaeth ac arteffactau'r cloddiadau archeolegol o fewn tafliad carreg i'w cartrefi.
Mae'r prosiect yn fenter gydweithredol gyffrous sy'n cynnwys archeolegwyr, haneswyr, gwyddonwyr cymdeithasol, a newyddiadurwyr cymunedol o Brifysgol Caerdydd yn gweithio gyda gweithwyr datblygu cymunedol, athrawon ac artistiaid.
Bydd Cydweithfa CAER, grŵp o artistiaid lleol, yn cynnal gweithdai lle gall trigolion ddod draw i fod yn greadigol, a hynny wrth ddysgu am hanes eu cymuned.
Byddant yn cael cyfle i brofi sgiliau crefft hynafol sy'n cynnwys crochenwaith a serameg, gweithio gydag esgyrn anifeiliaid, drwy gyfres o weithdai archeoleg arbrofol gan dimau Treftadaeth CAER a Guerrilla Archaeology Prifysgol Caerdydd.
Yna, bydd amrywiaeth o nwyddau yn cael eu cynhyrchu, gan gynnwys crefftau, cardiau, gemwaith, cynhyrchion coginiol ac o bosibl yn cael eu gwerthu mewn siopau lleol a sefydliadau treftadaeth, gan ddatblygu cyfleoedd menter gymdeithasol i artistiaid a thrigolion lleol.
Bydd Cydweithfa CAER hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr yn Ysgol Uwchradd Gymunedol Gorllewin Caerdydd i greu arddangosfa gelf yn nerbynfa eu hysgol newydd. Bydd hanes y fryngaer hefyd yn cael ei ymgorffori i'r cwricwlwm fel y gall disgyblion ddysgu am bwysigrwydd y safle.
Gall trigolion gael gwybodaeth am y digwyddiadau diweddaraf drwy'r sianel "CAER BC" newydd ar YouTube a CAERNews, papur newydd untro fydd yn cael ei gynhyrchu'n arbennig ar gyfer Gŵyl Trelái 2018, gyda chelf leol a phroffiliau artistiaid, fydd yn helpu i hyrwyddo'r prosiect i bobl leol. Bydd arbenigedd Canolfan Newyddiaduraeth Gymunedol Prifysgol Caerdydd yn cefnogi'r ddwy fenter hyn.
Mae cynlluniau ar waith i fynd â llwyddiannau'r prosiect allan i rannau eraill o'r ddinas, ac mae cynlluniau i gynnal perfformiad, arddangosfa, a thafluniad ar raddfa fawr yng nghanol y ddinas yn ddiweddarach yn y flwyddyn.
Mae Bryngaer Oes Haearn Caerau ymhlith y mwyaf trawiadol yn Ne-ddwyrain Cymru, ac roedd yn ganolbwynt grym yn y rhanbarth cyn goresgyniad y Rhufeiniaid yn y flwyddyn 74 OC. Mae modd gweld amddiffynfa gylch ac eglwys a adeiladwyd yn ystod y cyfnod Canoloesol hyd heddiw.
Yn y ganrif gyntaf OC, adeiladwyd fila Rufeinig yn yr ardal, ac mae gweddillion yr adeilad siâp L yn dal i fodoli dan gaeau chwarae Parc Trelái.
Dywedodd Dave Horton, Rheolwr Datblygu Gweithredu yng Nghaerau a Threlái: "Does dim rhaid i chi dreulio llawer o amser yn Nhrelái a Chaerau i weld bod yna gyfoeth o greadigrwydd a sgiliau artistig sy'n aml yn cael eu hanwybyddu. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae Gweithredu yng Nghaerau a Threlái wedi bod yn dod o hyd i artistiaid lleol a'u datblygu drwy brosiect Breaking the Mould.
"Gyda lansiad Stiwdio CAER, mae gennym gyfle i fynd â hyn i lefel arall, gan ddefnyddio amryw ddisgyblaethau creadigol i archwilio, deall, a chyfathrebu am ein treftadaeth ragorol, a hynny wrth ddatblygu a dathlu sîn gelfyddydol leol sy'n ffynnu."
Dywedodd gyd-gyfarwyddwr CAER, Dr Dave Wyatt, uwch ddarlithydd yn Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd y Brifysgol: "Mae stori bryngaer Caerau yn anhygoel, a bydd Stiwdio CAER yn helpu pobl leol i ddathlu'r stori honno a chael hyfforddiant sgiliau newydd ar yr un pryd."
Ychwanegodd Paul Evans, sy'n artist: "Ers i mi ddechrau gweithio ar Brosiect CAER yn 2012, rydw i wedi cael fy ysbrydoli'n fawr gan harddwch a phŵer emosiynol y dreftadaeth yr ydym wedi'i weld yng Nghaerau a Threlái. Mae popeth, gan gynnwys y gwrthrychau rhyfeddol a ddarganfuwyd yn y tir a'r straeon hyfryd y mae aelodau'r gymuned wedi eu rhannu â ni, yn ychwanegu at gyfoeth ac ystyr y darlun unigryw a chymhleth hwn.
"Mae gan Gydweithfa CAER adnodd anhygoel i fanteisio arno pan mae angen creu celf a chrefftau mewn ymateb i'r dreftadaeth hon, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld beth ddaw o'r broses greadigol gyffrous hon."
Mae'r prosiect diweddaraf yn ychwanegu at lwyddiannau Prosiect Treftadaeth CAER a enillodd wobr Times Higher Education ar gyfer Cyfraniad Rhagorol at y Gymuned Leol.
Mae Treftadaeth CAER yn ymchwilio i hanes ac archaeoleg maestrefi Caerau a Threlái yng Nghaerdydd, o'r cyfnod cynhanes hyd at yr oes fodern. Mae'n ceisio helpu i gysylltu cymunedau â'u treftadaeth yn ogystal â datblygu cyfleoedd addysgol a lles cymunedol.